Pobl y Senedd

Helen Mary Jones AS

Helen Mary Jones AS

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfer gwasanaethau iechyd clinigol arfaethedig mewn ysbytai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ddyfodol y diwydiant pysgod cregyn ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Wedi'i gyflwyno ar 24/02/2021

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'i chael ar hyrwyddo hawliau plant?

Wedi'i gyflwyno ar 03/02/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch mynd i'r afael â'r gagendor digidol wrth i ddisgyblion barhau i ddysgu o bell?

Wedi'i gyflwyno ar 06/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflwyno'r cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus?

Wedi'i gyflwyno ar 05/11/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r adnoddau sydd eu hangen ar brifysgolion Cymru i gefnogi addysgu a dysgu i fyfyrwyr yn ystod achosion COVID-19 ar gampysau?

Wedi'i gyflwyno ar 14/10/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Helen Mary Jones AS

Bywgraffiad

Roedd Helen Mary Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Yn ystod y Cynulliad Cyntaf (1999 - 2003) Helen oedd Aelod Cynulliad  Llanelli.

Yn ystod yr Ail Gynulliad (2003 - 2007) roedd Helen yn Aelod Cynulliad Rhanbarthol ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn ystod y Trydydd Cynulliad (2007 - 2011) roedd Helen nôl yn Aelod Cynulliad etholaeth Llanelli.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 07/05/1999 - 30/09/2003
  2. 02/05/2003 - 02/05/2007
  3. 04/05/2007 - 31/03/2011
  4. 02/08/2018 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Helen Mary Jones AS