Mae gan y Fonesig
Jane Roberts gefndir eang ym maes llywodraeth leol ac iechyd. Roedd Jane yn
Arweinydd Cyngor Camden rhwng 2000 a 2005, gan wasanaethu fel cynghorydd am 16
mlynedd. Bu’n cadeirio Comisiwn y Cynghorwyr ar gyfer yr Adran Cymunedau a Llywodraeth
Leol rhwng 2007 a 2009, ac ar hyn o bryd mae’n gadeirydd y felin drafod, y
Rhwydwaith Llywodraeth Leol newydd.
Yn broffesiynol,
mae Jane yn feddyg ac yn gweithio fel ymgynghorydd ysbyty ym maes Seiciatreg
Plant a’r Glasoed. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Meddygol ac yna’n Gyfarwyddwr Ansawdd
a Pherfformiad yn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Islington.
Mae gan Jane
amrywiaeth eang o brofiad anweithredol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd
sector, yn bennaf yn ymwneud ag iechyd, addysg, polisi cyhoeddus a moeseg, gan
gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ofsted rhwng 2006 a 2011 ac yn
Gadeirydd Parenting UK rhwng 2006 a 2012. Mae hi yn ymddiriedolwr y Sefydliad
Ymchwil Polisi Cyhoeddus ac yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi
Cyhoeddus Cymru.
Mae Jane wedi
ysgrifennu nifer o bapurau academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid ym maes
pediatreg a seiciatreg, a hefyd mae wedi cyd-olygu’r llyfr "The Politics
of Attachment" (1996). Mae’n Gymrawd Gwadd yn y Brifysgol Agored ac mae
wedi cyhoeddi gwaith yn 2015 sy’n ffrwyth ei gwaith ymchwil ar newid o ran
swyddi gwleidyddol.