Pobl y Senedd

Jayne Bryant AS

Jayne Bryant AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gorllewin Casnewydd

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Jayne Bryant yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Jayne Bryant yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Seans yn cwestiynu Saesneg - Updated - update2

Wedi'i gyflwyno ar 09/09/2021

Wedi'i gyflwyno ar 09/09/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo iechyd meddwl gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig?

Wedi'i gyflwyno ar 17/02/2021

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig?

Wedi'i gyflwyno ar 10/12/2020

I'w drafod ar 12/11/2020

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda busnesau Cymru ynghylch cysylltiadau masnach y DU yn y dyfodol?

Wedi'i gyflwyno ar 24/06/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Jayne Bryant AS

Bywgraffiad

Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cafodd Jayne Bryant MS ei geni a’i magu yng Nghasnewydd, lle mae’n byw. Aeth Jayne i'r ysgol yng Nghasnewydd a mentrodd i fyd gwleidyddiaeth yn 17 oed.

Yn 2016, cafodd Jayne ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd. Cafodd ei phenodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd, ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

Wedi’i hailethol yn 2021, enwebwyd Jayne i Gadeirio’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Chweched Senedd a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Cadeiriodd Jayne Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddiabetes, ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, ac ar Atal Hunanladdiad, a bu’n Is-gadeirydd ar gyfer y Grwpiau Trawsbleidiol ar Ddementia ac Undod Rhwng Cenedlaethau.

Penodwyd Jayne yn Weinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar ar 21 Mawrth 2024.

Gydag angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol, ac yn eiriolwr dros helpu a chefnogi pobl, mae Jayne yn ymgyrchydd gweithgar ar faterion megis iechyd a llesiant, yr amgylchedd a newid hinsawdd, trafnidiaeth, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Mae Jayne yn ymroddedig i annog pobl ifanc i fod yn weithgar ac ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Mae gwleidyddiaeth yn bwysig, a rhaid i bobl ifanc fod yn ganolog iddi.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Jayne Bryant AS