Pobl y Senedd

Julie James AS

Julie James AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Gorllewin Abertawe

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Julie James yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Julie James yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o few...

I'w drafod ar 03/06/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leo...

I'w drafod ar 17/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Terfynau Rhagnodedig ar gyfe...

I'w drafod ar 18/02/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)  

I'w drafod ar 25/03/2019

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru gyda chwmnïau dŵr er mwyn pwyso a mesur opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem lle y mae defnyddiau traul yn achosi...

I'w drafod ar 07/12/2018

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ddydd Llun 10 Rhagfyr 2018. 2. Yn nodi ei bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu’r Datganiad Cyffredi...

I'w drafod ar 05/12/2018

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Julie James AS

Bywgraffiad

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Julie yn ymgyrchydd ymroddedig dros faterion gwyrdd, yn amgylcheddwr ac yn nofiwr a sgïwr brwd. Mae Julie hefyd yn aelod o gorff Unsain ac yn aelod o Gray's Inn.

Hanes personol

Ganwyd Julie yn Abertawe, ond treuliodd rannau sylweddol o'i hieuenctid mewn gwledydd eraill ledled y byd, yn byw gyda'i theulu. Treuliodd Julie dyddiau cynnar ei gyrfa yn Llundain, cyn symud yn ôl i Abertawe gyda'i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn agosach at ei theulu.

Cefndir proffesiynol

Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithiwr blaenllaw ar faterion amgylcheddol a chyfansoddiadol. Cyn hynny, bu'n brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa gyfreithiol mewn llywodraeth leol. Roedd yn gyfreithiwr polisi ym Mwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio yng Nghyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna yng Nghyngor Dinas a Sir Abertawe.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Julie y Blaid Lafur yn y brifysgol. Roedd yn aelod gweithgar tan iddi gymryd swyddi â chyfyngiadau gwleidyddol ynghlwm wrthynt mewn nifer o gynghorau.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Julie James AS