Pobl y Senedd
Mick Antoniw AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Pontypridd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
10 Market Street
Pontypridd
CF37 2ST
Swyddfa
01443 406 400
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7309
E-bost
Mick.Antoniw@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Mick Antoniw AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Mick Antoniw yn un o sylfaenwyr Sefydliad Bevan. Mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Ef yw Is-lywydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Brynsadler ym Mhont-y-clun ac mae’n Ymddiriedolwr i’r elusen cynghori ieuenctid, Eye-to-eye, ym Meddau. Mae hefyd yn aelod o sefydliad Gwreiddiau Llafur Cymru, y Blaid Gydweithredol, y GMB ac Undeb y Cerddorion.
Yn ei etholaeth, mae Mick yn canolbwyntio ar sicrhau tegwch a chyfiawnder cymdeithasol i bobl sy’n gweithio ac ar wella seilwaith, yn enwedig ym maes trafnidiaeth. Mae’n ymgysylltu’n eang ar draws ei etholaeth, ac mae’n falch o fod wedi helpu llawer o unigolion a grwpiau i wella eu hardal leol.
Hanes personol
Cafodd Mick ei fagu yn Reading, gan symud i Gymru i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1973. Mae’n caru Cymru a dyma lle y cwrddodd â’i wraig Elaine, felly yma y mae wedi byth oddi ar hynny. Ffoadur o’r Wcráin ar ôl y rhyfel oedd tad Mick; dysgodd Wcreineg iddo, iaith y mae’n rhugl ynddi. Mae Mick yn cael gwersi Cymraeg pryd bynnag y bo modd, ond mae ganddo rywfaint i fynd cyn y bydd yn rhugl mewn tair iaith!
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol yn Aelod Cynulliad yn 2011, roedd Mick yn bartner yn Thompsons, cwmni cyfreithwyr ym maes Undebau Llafur, lle’r oedd yn cynrychioli pobl Pontypridd ac ardal Rhondda Cynon Taf yn rheolaidd. Trwy ei waith achos, aeth i’r pyllau glo yn Nantgarw a Chwm, a bu’n cynrychioli’r South Wales Forgemasters a Brown Lenox ymhlith eraill. O ganlyniad, mae wedi gweld nifer o newidiadau yn yr etholaeth dros y blynyddoedd.
Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr ym 1980, bu Mick yn arbenigo mewn anafiadau i’r asgwrn cefn a’r pen, yn ogystal ag achosion o ddynladdiad corfforaethol. Mae’n gymrawd gwadd ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest, ac mae wedi darlithio’n eang ledled Cymru, yn y DU ac yn rhyngwladol ym meysydd iechyd a diogelwch a diwygio’r gyfraith.
Hanes gwleidyddol
Mae Mick wedi bod yn gwasanaethu pobl Pontypridd a Thaf Elái fel Aelod Cynulliad er 2011. Cafodd ei ail-ethol yn 2016.
Gwasanaethodd Mick fel Cwnsler Cyffredinol Cymru o fis Mehefin 2016 tan fis Tachwedd 2017.
Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011 - 2016), bu Mick yn aelod o Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, ac ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae Mick yn cymryd rhan mewn nifer o grwpiau trawsbleidiol.
Rhwng 2012 a 2015, bu Mick yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd. Cafodd ei ailbenodi i’r rôl yn 2017.
Rhwng 1977 a 1979, Mick oedd Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (Cymru) ac yn fuan wedyn, rhwng 1981 a 1989 roedd yn aelod o Gyngor Sir De Morgannwg.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 -