Hanes personol
Yn fab i weinidog, roedd Peredur eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o
Gymru cyn iddo fynd i ysgol uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, gan gynnwys Pumsaint
yn Sir Gaerfyrddin, Moelfre yn Ynys Môn, Licswm yn Sir y Fflint. Mae gan
Peredur Radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Rheoli o Brifysgol Sheffield, ac
mae bellach yn byw yng Nghaerffili.
Cefndir proffesiynol
Fel myfyriwr yn Sheffield, cymerodd Peredur swydd ym maes bancio. Ar ôl
cwblhau ei radd, aeth Peredur ar drywydd cyflym i fod yn Rheolwr Banc i
Santander, a llwyddodd i symud yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant. Tra
gyda Santander, bu Peredur yn gweithio mewn canghennau ledled de Cymru, gan
gynnwys Casnewydd, Mynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y
Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Ar ôl Santander, daeth Cymdeithas Adeiladu
Principality, lle bu Peredur yn gweithio fel Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer
cangen morgeisi preswyl y busnes. Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol,
ymunodd Peredur â Cymorth Cristnogol fel Cydgysylltydd Rhanbarthol De Cymru a
Swyddog Etifeddiaeth Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd â Bwrdd
Cyfarwyddwyr Alltudion ar Waith, elusen sy'n gweithio i leoli ffoaduriaid. Ei
gam nesaf oedd ymuno â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, lle bu'n gweithio
gyda nifer o grwpiau ffydd ledled Cymru.
Hanes gwleidyddol
Mae Peredur wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd yng
Nghaerffili ers 2017 ac wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel Cadeirydd Cyngor
Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Etholaeth
Caerffili Plaid Cymru. Yn ymgyrchydd am gyfnod hir dros Plaid Cymru, etholwyd
Peredur i'r Senedd y tro cyntaf iddo sefyll yn yr etholiad.