Pobl y Senedd

Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Ynys Môn

Arweinydd Plaid Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig i brofi cael gwared ar gyd-gyflwynwyr

I'w drafod ar 04/10/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu llesiant meddwl pobl Ynys Môn?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd ar Borthladd Caergybi?

Wedi'i gyflwyno ar 20/01/2021

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DG ynglyn â pharatoi porthladd Caergybi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit?

Wedi'i gyflwyno ar 19/11/2020

TEST

I'w drafod ar 12/11/2020

Prawf

I'w drafod ar 10/11/2020

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhun ap Iorwerth AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grwp Plaid Cymru yn ystod y Pumed Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/08/2013 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhun ap Iorwerth AS