Sefydlwyd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 28 Mehefin 2016 er mwyn craffu ar y Prif Weinidog ynglŷn ag unrhyw fater sy'n berthnasol i weithredu swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gyfarfod yn gyhoeddus unwaith bob tymor y Senedd ac mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru lle bo hynny'n bosibl. Mae hefyd wedi cytuno i fabwysiadu dull strategol ac i ganolbwyntio ar feysydd sy'n ymwneud â chyfrifoldebau portffolio penodol y Prif Weinidog neu ei rôl fel arweinydd Llywodraeth Cymru.