Mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru.
Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
C
Tymor
Cadeirydd
Mae gan bob un o bwyllgorau Senedd Gadeirydd. Caiff pob cadeirydd ei ethol gan y Senedd a bydd yn eistedd ym mhen y bwrdd fel arfer yn ystod cyfarfodydd y pwyllgor. Prif rôl y Cadeirydd yw sicrhau bod pob Aelod o’r pwyllgor yn cael yr un cyfle i ofyn cwestiynau a bod pob tyst yn cael yr un cyfle i ymateb. I bob pwrpas, mae cyfrifoldeb y Cadeirydd mewn cyfarfod pwyllgor yn debyg i gyfrifoldeb y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd pan fyddant yn cadeirio Cyfarfodydd Llawn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cadeirydd Dros Dro
Mae gan bob pwyllgor y pŵer i benodi cadeirydd dros dro yn absenoldeb ei gadeirydd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Camau gweithredu
Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i rhannu’n nifer o lefelau manylder at ddibenion monitro a rheoli. Y camau gweithredu yw’r lefel fwyaf manwl a gyhoeddir yn nogfennau’r gyllideb ac mae’n nodi meysydd polisi neu fenter. Dylid nodi, fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd y camau gweithredu o reidrwydd yn darparu manylion am ddyraniadau ar lefel polisi neu raglen benodol. Gelwid y camau gweithredu gynt yn llinellau gwariant yn y gyllideb.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Canllawiau ar gynnal busnes y Senedd yn briodol
Gall y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd mewn perthynas â chynnal trafodion y Senedd yn briodol.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Clymblaid
Pan fydd mwy nag un blaid yn cytuno i ffurfio llywodraeth, byddant yn ffurfio clymblaid. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan na fydd unrhyw un blaid yn llwyddo i ennill dros hanner y seddi.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cod Ymarfer
Nod Cod Ymarfer Aelodau’r Senedd yw rhoi arweiniad iddynt ynglŷn â’r safonau ymddygiad y disgwylir iddynt gadw atynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau a’u dyletswyddau cyhoeddus.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cofnod y Trafodion (Y Cofnod)
Cofnod swyddogol o’r Cyfarfodydd Llawn sy’n cynnwys yr holl ddatganiadau, areithiau ac ymyriadau gan Aelodau’r Senedd a manylion unrhyw bleidleisiau. Caiff Cofnod y Trafodion ei gyhoeddi gan Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Senedd cyn pen 24 awr ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben.
Cedwir cofnod o gyfarfodydd pwyllgor hefyd, a chaiff fersiwn ddrafft ei chyhoeddi fel arfer cyn pen wythnos ar ôl pob cyfarfod. Mae’r trawsgrifiadau hyn ar gael ar wefannau’r pwyllgorau unigol neu drwy chwilio'r Cofnod.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cofrestr buddiannau’r Aelodau
Mae’r Senedd yn cadw ac yn cyhoeddi cofrestr o fuddiannau ariannol a buddiannau eraill yr Aelodau a chofnod o’r aelodau hynny o’u teuluoedd y maent yn eu cyflogi.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Comisiwn y Senedd
Corff corfforaethol Senedd Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gynorthwyo Aelodau’r Senedd. Mae pump o gomisiynwyr yn arwain y Comisiwn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i gael Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru, sy’n unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru.
Rôl y Comisiynydd yw bod yn warcheidwad i genedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n llunio polisi yng Nghymru i feddwl am yr effaith hirdymor y mae eu penderfyniadau yn ei chael.
Y Comisiynydd presennol yw Sophie Howe a ddechreuodd y rôl yn 2016. Cyfnod y swydd yw saith mlynedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Comisiynydd Safonau
Rhywun annibynnol a benodir gan y Senedd i roi cyngor a chymorth yn ymwneud ag ymddygiad yr Aelodau yw Comisiynydd Safonau’r Senedd. Mae’n ymchwilio’n annibynnol i unrhyw gwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd pan fydd y cwynion hynny’n ymwneud â thorri codau, protocolau neu benderfyniadau’r Senedd. Douglas Bain CBE TD yw’r Comisiynydd Safonau (dros dro) ar hyn o bryd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) yw'r datganiad mwyaf cyflawn o hawliau plant a gyhoeddwyd erioed. Yn ogystal, dyma’r cytuniad hawliau dynol rhyngwladol sydd wedi cael ei gadarnhau amlaf yn hanes y byd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Craffu
Pan fydd y Senedd yn archwilio gwaith Llywodraeth Cymru, dywedir ei fod yn ymgymryd â gwaith ‘craffu’. Mae hyn yn golygu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniadau ac am yr hyn y mae’n ei wneud. Pwyllgorau Senedd Cymru sy’n ymgymryd â’r gwaith hwn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Craffu cyn y broses ddeddfu
Bydd un o bwyllgorau Senedd y DU neu Senedd Cymru yn ystyried, neu’n craffu ar ddeddfwriaeth ddrafft cyn i’r broses ddeddfu ffurfiol ddechrau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cronfa Gyfunol Cymru
Caiff arian cyhoeddus a ddyrennir i Gymru gan Lywodraeth y DU ei dalu i’r gronfa hon, drwy gyfrwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a hefyd arian a geir o ffynonellau eraill.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Crynodeb o Bleidleisiau
Os cynhelir pleidleisiau yn ystod y Cyfarfod Llawn, cynhyrchir Crynodeb o Bleidleisiau sy’n cael ei gyhoeddi fel rhan o gofnodion y cyfarfod. Mae’r crynodeb hwn yn cynnwys manylion ynghylch sut y pleidleisiodd pob Aelod ar bob eitem o fusnes.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiwn Brys
Gall Aelodau wneud cais unrhyw bryd i ofyn Cwestiwn Brys i aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn. Fodd bynnag, bydd Cwestiynau Brys ond yn cael eu caniatáu os yw'r Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau (Amserol)
Mae 20 munud ar gael i Aelodau ofyn Cwestiynau Amserol i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol ar ôl y Cwestiynau Llafar ar ddydd Mercher bob wythnos y mae'r Senedd yn cwrdd yn y Cyfarfod Llawn. Mae'n rhaid i'r Cwestiynau Amserol ymwneud â mater o bwys cenedlaethol, rhanbarthol neu leol pan fyddai’n ddymunol cael ymateb cyflym gan un o'r Gweinidogion.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau (Brys)
Gall Aelodau wneud cais unrhyw bryd i ofyn Cwestiwn Brys i aelod o Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn. Fodd bynnag, bydd Cwestiynau Brys ond yn cael eu caniatáu os yw'r Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd os yw cwestiwn yn ymwneud â Chomisiwn y Senedd) yn fodlon bod y cwestiwn o bwys cenedlaethol brys.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau (Llafar)
Caiff Cwestiynau Llafar eu cyflwyno bob wythnos i’r Prif Weinidog eu hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn. Cânt eu cyflwyno bob pedair wythnos i bob un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd eu hateb.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau (Ysgrifenedig)
Caiff Cwestiynau Ysgrifenedig eu cyflwyno i un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â materion y maent yn gyfrifol amdanynt, a bydd y Comisiwn hefyd yn ateb Cwestiynau Ysgrifenedig yn ymwneud â’i gyfrifoldebau. Anfonir atebion ysgrifenedig at yr Aelod a chânt eu cyhoeddi ar dudalen Cofnod y Trafodion ar wefan y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau Amserol
Caiff 20 munud eu neilltuo i Aelod ofyn Cwestiynau Amserol i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiynau Llafar y Senedd bob dydd Mercher y mae’r Senedd yn cynnal Cyfarfod Llawn. Rhaid i Gwestiynau Amserol fod yn ymwneud â mater o bwys cenedlaethol, rhanbarthol neu leol pan fyddai’n ddymunol cael ymateb cyflym gan un o Ysgrifenyddion y Cabinet neu un o’r Gweinidogion.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau Llafar
Caiff Cwestiynau Llafar eu cyflwyno bob wythnos i’r Prif Weinidog eu hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn. Cânt eu cyflwyno bob pedair wythnos i bob un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd eu hateb.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau Ysgrifenedig
Caiff Cwestiynau Ysgrifenedig eu cyflwyno i un o Weinidogion Cymru neu’r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud â materion y maent yn gyfrifol amdanynt, a bydd y Comisiwn hefyd yn ateb Cwestiynau Ysgrifenedig yn ymwneud â’i gyfrifoldebau. Anfonir atebion ysgrifenedig at yr Aelod a chânt eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwestiynau’r Senedd
Gall yr Aelodau ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd am unrhyw faterion sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb. Mae pedwar math o Gwestiwn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwnsler Cyffredinol
Prif Gynghorydd Cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol yn un o Weinidogion Cymru ond mae’n aelod o Lywodraeth Cymru. Nid oes rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cworwm
Y nifer leiaf o Aelodau’r Senedd y mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol er mwyn cynnal cyfarfod pwyllgor.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cwrt
Dyma lle bydd Aelodau’r Senedd yn cyfarfod cyn ac ar ôl dadleuon, ger yr ystafelloedd pwyllgora yn adeilad y Senedd. Mae dau ddrws dwbl yn arwain i’r Siambr drwy’r wal grom yng nghanol y Cwrt.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cydsyniad Brenhinol
Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf, rhaid cael cymeradwyaeth y Frenhines. Cydsyniad Brenhinol yw hyn a dyma gam olaf y broses ddeddfu. Rhaid i bob Bil (a wneir gan Senedd Cymru neu Senedd y DU) gael cydsyniad brenhinol cyn y daw’n gyfraith.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfarfod Llawn
Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio cyfarfod llawn y 60 Aelod Senedd yn y Siambr (prif siambr y Senedd) i fwrw ymlaen â busnes y Senedd. Ar hyn o bryd, cynhelir Cyfarfodydd Llawn yn y Siambr ar brynhawn dydd Mawrth a phrynhawn dydd Mercher yn ystod y tymor.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyflogi aelodau’r teulu
Rhaid i unrhyw Aelod sydd, ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd, yn cyflogi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, unrhyw berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o'i deulu neu'n aelod o deulu Aelod arall, nodi’r manylion hynny yn ei gofrestr buddiannau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Ers 6 Ebrill 2019, mae pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy'n talu treth incwm, wedi bod yn talu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT). Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cynrychioli cyfran o'r dreth incwm a delir gan drethdalwyr Cymru. Mae’r gyfran hon yn cael ei throsglwyddo’n syth i Lywodraeth Cymru er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r trefniant hwn yn cael ei weinyddu gan sefydliad Cyllid a Thollau EM (HMRC). Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru ac yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfraith yr UE a ddargedwir
Y corff cyfreithiau a ddeilliodd o aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, ac a ddargedwir fel cyfraith ddomestig yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfranogiad
Cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gall pobl gymryd rhan drwy bleidleisio, sefyll mewn etholiad, ymuno â phlaid wleidyddol, cyflwyno deiseb neu ymuno ag ymgyrch leol neu genedlaethol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn ymchwiliad gan bwyllgor trwy ymateb i ymgynghoriad.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfreithiau
Rheolau y bydd llywodraeth yn penderfynu arnynt yw’r rhain ac maent yn dweud beth y gellir ac na ellir ei wneud mewn gwlad. Caiff cyfreithiau y bydd y Senedd yn penderfynu arnynt eu galw’n Ddeddfau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfrifon
Cyfres o ddogfennau sy’n cael eu creu i ddangos sut mae cyrff ac adrannau wedi defnyddio’r adnoddau a oedd
ar gael iddynt.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfrifyddu croniadau
Dull o gofnodi incwm a gwariant yn ystod cyfnod cyfrifyddu. Rhoddir cyfrif am wariant neu incwm yn y flwyddyn y caiff ei godi /ei ennill, ac nid pan fydd yr arian yn newid dwylo.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cyfrin Gyngor
Cyfarfod rhwng y Brenin ac aelodau o’r Cyfrin Gyngor sydd hefyd yn aelodau o’r llywodraeth. Bydd y Cyfrin Gyngor yn cymeradwyo Biliau’r Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cylch gorchwyl
Fframwaith unrhyw ymchwiliad, y gall pwyllgor gytuno arno cyn iddo i’r ymchwiliad ddechrau.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cymhwysedd Deddfwriaethol
Y term a ddefnyddir i ddisgrifio cwmpas pŵer y Senedd i ddeddfu. Oherwydd y bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2011, mae’r Senedd yn cael pasio Deddfau yn y pynciau wedi’u cynnwys yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cafodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ei ddiwygio gan Ddeddf Cymru 2017, a ddarparodd ar gyfer setliad datganoli newydd i Gymru. Mae’r Model Cadw Pwerau a sefydlwyd o dan Ddeddf 2017 yn caniatáu i Senedd Cymru ddeddfu ar faterion nas cadwyd gan Senedd y DU.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynnig
Caiff cynnig ei wneud er mwyn cael penderfyniad gan y Senedd.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol
Ar ôl i femorandwm cydsyniad offeryn statudol gael ei osod gerbron y Senedd, dylid cyflwyno cynnig yn gofyn i’r Senedd gytuno i'r darpariaethau a nodir yn y memorandwm cydsyniad offeryn statudol. Gelwir cynnig o’r fath yn Gynnig Cydsyniad Offeryn Statudol.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynnig cyllideb atodol
Gall un o Weinidogion Cymru wneud cynnnig cyllideb atodol unrhyw adeg cyn, yn ystod neu ar ôl y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi (h.y. unrhyw adeg ar ôl derbyn cynnig y gyllideb flynyddol). Prif ddiben y gyllideb atodol yw gofyn am awdurdod i newid cynnig y gyllideb flynyddol yn ystod y flwyddyn.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynnig y gyllideb ddrafft
Dyma gam cyntaf proses y gyllideb yng Nghymru ac mae’n caniatáu i Aelodau a phwyllgorau graffu ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru cyn cynnig y gyllideb flynyddol.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynnig y gyllideb flynyddol
Dyma gam olaf proses y gyllideb yng Nghymru, a dyma sut y bydd Senedd yn rhoi awdurdod i Weinidogion Cymru wario adnoddau, cadw incwm a chael arian o Gronfa Gyfunol Cymru. Drwy gynnig gyllideb flynyddol hefyd caiff y Senedd ei hun, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus eu hariannu.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024
Tymor
Cynrychiolaeth gyfrannol
System etholiadol sy’n dosbarthu’r seddi’n ôl cyfran yr holl bleidleisiau a gaiff eu bwrw dros bob plaid. Caiff yr 20 o Aelodau rhanbarthol eu hethol trwy gynrychiolaeth gyfrannol, gan ddefnyddio’r System Aelodau Ychwanegol.
Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024