Rhestr termau

Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

D

Tymor

Dadl

Trafodaeth rhwng Aelodau. Cynhelir dadleuon yn y Siambr a gall pleidlais eu dilyn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Dadl Fer

Cynhelir dadl fer ar bwnc a gynigir gan Aelod o'r Senedd (ac eithrio Aelodau sydd hefyd yn Ysgrifenyddion y Cabinet neu’n Weinidogion Cymru) bob wythnos pan fydd Cyfarfod Llawn. Cânt eu cynnal fel arfer yn ystod y 30 munud olaf o’r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Dadleuon Aelodau

Mae amser yn cael ei neilltuo gan y Pwyllgor Busnes fel bod cynigion yn gallu cael eu cynnig gan unrhyw Aelod nad yw'n aelod o'r Llywodraeth. Rhaid i Ddadleuon Aelodau gael eu cefnogi gan ddau Aelod arall, fan lleiaf, a rhaid i un o’r Aelodau hynny gynrychioli plaid wleidyddol wahanol. Bydd y Pwyllgor Busnes yn dewis cynnig i'w drafod o blith y cynigion a gaiff eu cyflwyno.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau

Mae dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau yn darparu mecanwaith i'r Aelodau drafod cynigion ar gyfer deddfwriaeth, a hynny y tu allan i gyfyngiadau proses ddeddfwriaethol y Senedd. Maent hefyd yn rhoi cyfle i Aelodau unigol drafod syniadau posibl ar gyfer deddfwriaeth a phrofi lefel y gefnogaeth sy’n bodoli yn y Senedd y tu allan i gyfyngiadau'r broses ddeddfwriaethol ffurfiol. Unwaith bob hanner tymor, mae slot 30 munud yn cael ei neilltuo ar ddydd Mercher er mwyn cynnal dadl yn y Siambr ar y cynnig a gaiff ei ddewis.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datgan buddiannau

O dan amgylchiadau penodol, mae gofyn i Aelodau'r Senedd wneud datganiadau llafar er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am unrhyw fuddiannau ariannol yn y gorffennol, buddiannau ariannol presennol neu fuddiannau ariannol yn y dyfodol y gallai eraill eu hystyried, o fewn rheswm, eu bod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod dan sylw i ddadl neu drafodaeth.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

Rhaid i aelod o Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig yn hysbysu’r Senedd am unrhyw offeryn statudol perthnasol a wnaed (neu a fydd yn cael ei wneud) gan un o Weinidogion y Deyrnas Unedig o dan adrannau 8, 9 neu 23 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (neu o dan Atodlen 4 iddi), os yw’r offeryn statudol yn cynnwys darpariaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datganiadau 90 Eiliad

Gall unrhyw Aelod wneud Datganiad 90 Eiliad ar unrhyw bwnc. Er enghraifft, gall Aelod ddefnyddio’r mecanwaith hwn er mwyn codi mater sy'n peri pryder yn ei etholaeth, tynnu sylw at ryw fater lleol, neu nodi dyddiad neu ben-blwydd arwyddocaol. Rhaid i'r datganiadau hyn fod yn gryno ac yn ffeithiol; nid ydynt yn destun dadl. Mae’r Datganiadau 90 Eiliad yn dilyn y Cwestiynau Amserol ar ddydd Mercher.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datganiadau Barn

Mae datganiadau barn yn caniatáu i’r Aelodau dynnu sylw at faterion sy’n peri pryder neu at lwyddiant yn ymwneud ag unrhyw bwnc sy’n effeithio ar Gymru. Gall unrhyw Aelod eu cyflwyno ac eithrio Aelodau sy’n Ysgrifenyddion y Cabinet neu’n Weinidogion Cymru. Gall Aelodau eraill gefnogi, gwrthwynebu neu roi sylwadau ysgrifenedig ar ddatganiadau barn a bydd y Swyddfa Gyflwyno’n eu cyhoeddi ar wefan y Senedd

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datganoli

Datganoli yw’r broses o drosglwyddo neu ddirprwyo pŵer i lefel fwy lleol. Mae fel arfer yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drosglwyddo pŵer oddi wrth lywodraeth ganolog y DU. Yng Nghymru, mae pwerau deddfu wedi’u datganoli oddi wrth Weinidogion y DU i Weinidogion Cymru ac mae pwerau deddfu wedi’u datganoli o Senedd y DU i Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Datganoli pwerau cyllidol

O dan Ddeddf Cymru 2014, trosglwyddwyd pwerau trethu a benthyca penodol o Lywodraeth y DU i Senedd Cymru a Gweinidogion Cymru.
O ganlyniad i Ddeddf Cymru 2014:
• caniatawyd i Senedd Cymru ddeddfu mewn perthynas â threthi Cymru yng nghyd-destun trafodion yn ymwneud â buddion mewn tir (y Dreth Trafodiadau Tir (LTT)) ac yng nghyd-destun safleoedd tirlenwi (y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT)), a daeth y mesurau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018;
• grymuswyd Senedd Cymru i bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) ar gyfer trethdalwyr Cymru;
• caniatawyd i Lywodraeth Cymru fenthyg hyd at £500 miliwn at ddibenion ariannu gwariant cyfalaf.
Yn sgil Deddf Cymru 2017, cynyddwyd terfyn benthyca cyfalaf cyffredinol Llywodraeth Cymru i £1 biliwn, a chynyddwyd y terfyn blynyddol i £150 miliwn.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Pasiwyd y Ddeddf hon gan Senedd y DU yn 2006 i roi pwerau i’r Senedd ddeddfu yng Nghymru, ac i newid y modd y caiff Aelodau’r Senedd eu hethol. Roedd y Ddeddf hefyd yn gwahanu Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddf Senedd Cymru

Ar hyn o bryd mae gan Senedd Cymru’r pŵer i wneud cyfreithiau mewn unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017). Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu cyflwyno gerbron y Senedd. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Senedd Cymru, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol. Cyfeirir at ddeddfau yn aml fel deddfwriaeth sylfaenol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Deddfau Senedd

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddf Seneddol

Cyfraith sy’n cael ei gwneud gan Senedd y DU yw Deddf Seneddol. Caiff cynigion ar gyfer deddfau newydd (sef Biliau) eu trafod yn Nhy’r Arglwyddi a Thy’r Cyffredin. Os bydd dau dy’r Senedd DU yn pleidleisio o blaid y cynigion, yna bydd y Bil yn barod i ddod yn Ddeddf. Cyn y gall Bil ddod yn Ddeddf Seneddol, rhaid i’r Frenhines ei gymeradwyo. Enw’r broses hon yw Cydsyniad Brenhinol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddfwrfa

Corff deddfu lle caiff cyfreithiau newydd eu trafod a’u cytuno. Cyfeirir ato’n aml fel senedd. Mae’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth ac yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Yng Nghymru, Senedd Cymru yw’r ddeddfwrfa. Caiff y llywodraeth ei galw’n weithrediaeth (gweler uchod).

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddfwriaeth

Term cyffredinol am gyfreithiau newydd a’r broses o’u gwneud.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deddfwriaeth sylfaenol

Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau a gaiff eu pasio gan Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Cymru.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Deiseb

Drwy’r broses ddeisebu, gall y cyhoedd ddwyn materion penodol i sylw’r Senedd. Gall unigolion neu gyrff gyflwyno deisebau a hynny’n ymwneud ag unrhyw bwnc o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Bydd y Pwyllgor Deisebau’n ystyried pob deiseb dderbyniadwy sy'n sicrhau cefnogaeth o leiaf 50 o unigolion.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Deisebau

Chwilio am y term hwn

Tymor

Democratiaeth

Mae democratiaeth yn golygu y dylai pawb yn y wlad fod â llais yn y broses o ddewis pwy sy’n gwneud penderfyniadau a beth sy’n digwydd yn y wlad honno. Mewn gwlad ddemocrataidd, caiff etholiadau eu cynnal i roi cyfle i’r bobl benderfynu pwy ddylai eu cynrychioli.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Diddymiad

Diddymiad yw'r term swyddogol ar gyfer diwedd tymor seneddol.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Diogelu

Mae diogelu yn cyfeirio at y camau a gaiff eu cymryd i hyrwyddo lles plant a'u hamddiffyn rhag niwed.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Diwrnod gwaith

Mae hyn yn cyfeirio ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio:

(i) dydd Sadwrn a dydd Sul;
(ii) noswyl Nadolig; dydd Nadolig, dydd Iau Cablyd a dydd Gwener y Groglith;
(iii) diwrnod sy’n wŷl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971; neu
(iv) diwrnod a neilltuwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Chwilio am y term hwn

Tymor

Dogfennau a osodwyd

Mae proses benodol ar gyfer cyflwyno dogfennau’n ffurfiol gerbron y Senedd a dywedir eu bod yn cael eu ‘gosod’. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o’r dogfennau sy’n berthnasol i Fusnes y Seneddfel adroddiadau gan bwyllgorau’r Senedd, papurau Llywodraeth Cymru, neu ddogfennau gan gyrff allanol y mae’n ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau i’r Senedd. Caiff dogfennau eu gosod neu eu cyflwyno’n ffurfiol gerbon Swyddfa Gyflwyno’r Senedd i’w hystyried. Caiff yr holl ddogfennau a osodwyd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Gyflwyno a byddant i’w gweld hefyd ar wefan y Senedd.

Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2024

Dogfennau, Papurau ac Adroddiadau

Chwilio am y term hwn