Cyfarfod cyntaf Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid yng Nghaeredin.

Cyfarfod cyntaf Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid yng Nghaeredin.

Pwyllgor Cyllid y Senedd yn cwrdd a'u cymheiriaid Albanaidd

Cyhoeddwyd 28/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Peredur Owen AS ydw i, a fi yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd. Ar ddydd Iau, 16 Mehefin, cynhaliodd aelodau o Bwyllgor Cyllid y Senedd a Phwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban gyfarfod cyntaf Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid.

Er mai dim ond Aelodau o Bwyllgorau Cyllid Cymru a’r Alban oedd yn bresennol ar gyfer y cyfarfod cyntaf, mae’r Fforwm hefyd yn agored i Aelodau o Bwyllgor Cyllid Cynulliad Gogledd Iwerddon a all ymuno yn y dyfodol ar ôl i’r Pwyllgor hwnnw gael ei sefydlu. Gellir gwahodd Pwyllgorau Seneddol eraill hefyd i fod yn bresennol fel y bo'n briodol.

Mae'r mathau hyn o fforymau yn ffordd hynod ddefnyddiol o ddod ag Aelodau at ei gilydd i drafod pynciau amrywiol, creu mwy o gyfleoedd i gydweithio a chreu lle i rannu gwybodaeth.

Mae’r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit a'i olynydd, y Fforwm Rhyngseneddol, yn enghreifftiau gwych o’r modd y gallai gwaith rhyngseneddol weithio, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar y dull hwn o weithredu.

Prif ddiben y Fforwm yw creu system sy’n caniatáu i seneddwyr drafod a chydweithio yng nghyd-destun materion ariannol sydd o ddiddordeb iddynt i gyd.

Fel Pwyllgorau Cyllid mewn deddfwrfeydd datganoledig, rydym yn aml yn wynebu heriau tebyg ac edrychaf ymlaen at weithio mor aml â phosibl gyda fy nghyd-seneddwyr yn y dyfodol, er mwyn rhannu profiadau ac arfer gorau.

Mae hyn yn cynnwys rhannu dealltwriaeth a gwybodaeth am ragolygon, fframweithiau cyllidol, a’r modd y gall llywodraethau datganoledig ddefnyddio ysgogiadau ariannol, yn ogystal â chymharu’r ffyrdd y gall Pwyllgorau Cyllid wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r gwaith o graffu ar gyllidebau seneddol.

Bydd hyn yn ein rhoi yn y sefyllfa orau i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif yn effeithiol mewn perthynas â’r materion cyllidol a chyllidebol arwyddocaol sy’n effeithio arnom i gyd.