Mae stori unigryw yn perthyn i bron bob cornel o Gymru, ac yma yn y Senedd rydym yn falch i gynrychioli bob un.
Mae ein gwlad hardd yn wlad arbennig iawn i lawer o bobl ar draws y byd. Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, rydym yn falch o ddathlu bod Cymru yn rhan o straeon cynifer o bobl.
Mae Stori Gymreig yn amlygu profiadau unigryw a dirgrynol pobl sydd yn byw ledled Cymru.
Rydym wedi creu fideo byr yn defnyddio lluniau naturiol o'n cyfranwyr i adrodd eu straeon.
Y Senedd: lle mae pob llais yn cael eu croesawu, clywed a chynrychioli.
Darganfydda sut mae Cymru wedi dod yn rhan o'u stori
Dr Andrea Hammel
Mae Dr Andrea Hammel yn Ddarllenydd mewn Ieithoedd Modern ac yn Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei geni yng Ngorllewin yr Almaen ym 1968; daeth i’r DU ym 1988 ac i Gymru yn 2010. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ffoaduriaid rhag Sosialaeth Genedlaethol a ddaeth i’r DU yn y 1930au a’r 1940au. Mae ei phrosiectau diweddaraf wedi astudio’r plant a oedd yn ffoaduriaid ar y Kindertransport a’r ffoaduriaid a ddaeth i Gymru.
Roedd yn gyd-guradur ar gyfer yr arddangosfa ar Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i Lywio'r Dyfodol, ac fe ysgrifennodd ‘Finding Refuge: the stories of the men, women and children who fled to Wales to escape the Nazis’ (Honno, 2022). Mae dysgu oddi wrth hanes yn llinyn pwysig trwy ei gwaith academaidd yn ogystal â'i gweithgareddau eraill.
Mae hi’n ymddiriedolwr gydag Aberaid, sef elusen sy’n helpu ffoaduriaid yng Ngheredigion ac yn rhyngwladol. Mae hi'n byw gyda'i theulu yn Aberystwyth.
Daniel Trivedy
Mae Daniel Trivedy yn artist gweledol amlddisgyblaethol o dras Indiaidd sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Yn ogystal â bod yn artist gweithredol, mae Daniel yn gweithio fel Arweinydd Prosiect i Gyngor Celfyddydau Cymru ac fel darlithydd ar y cwrs Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Sir Gâr.
Mae Carthenni Argyfwng yn gweithio fel llwyfan sy’n dod â dwy sgwrs wahanol eu golwg at ei gilydd. Dyluniodd Daniel y carthenni i hyrwyddo amgylchedd mwy cynhwysol, gyda’r nod o gymodi sgyrsiau ynghylch cenedligrwydd a phobl sy'n ceisio lloches.
Batool Raza
Batool Abid Raza ydw i ac ar hyn o bryd rwy'n byw yn Aberystwyth. Rwy'n athrawes gelf, yn ddylunydd tecstilau, yn beintiwr ac yn gantores.
Cefais fy ngeni yn Kuwait ond bu'n rhaid i mi adael yn 1990 oherwydd rhyfel y Gwlff. Dim ond 10 oed oeddwn i a chefais loches ym Mhacistan gyda fy nheulu. Cymerodd ychydig flynyddoedd da i ni ymgartrefu ym Mhacistan. Deuthum i Aberystwyth yn 2013 ac ymunais ag Aberaid yn 2016 i helpu i setlo’r ffoaduriaid o Syria yn Aberystwyth. Ers hynny, rwyf wedi gwirfoddoli mewn nifer o ddigwyddiadau elusennol ac wedi creu grŵp cymunedol Mwslimaidd i fenywod. Gyda’n gilydd, rydym yn trefnu partis, cyfarfodydd a digwyddiadau crefyddol ar gyfer y gymuned Fwslimaidd yn Aberystwyth. Rwyf wedi bod yn cefnogi menywod Mwslimaidd yn Aberystwyth ac yn gwirfoddoli mewn arddangosfeydd celf ers i mi ddod i Aberystwyth.
Latifa Alnajjar
Latifa Alnajjar ydw i ac rwy'n dod o Homs, Syria. Gadewais Syria i gael lloches gyda fy nheulu yn yr Aifft yn 2013, gan symud i Aberystwyth yn 2016. Cawsom help a chefnogaeth i ymsefydlu yma gan y Groes Goch ac Aberaid. Gwnaeth Rose o’r Groes Goch fy helpu fi a dwy fenyw arall o Syria i ddechrau busnes bach o’r enw “Syrian Dinner Project”. Gwnaethom ddechrau gyda stondinau bach ac yna digwyddiadau mawr fel priodasau dros gyfnod o dair blynedd ac rydym yn dal i dyfu. Gwnaethom ennill wobr yn 2019 yn ein Gwobr Entrepreneur Cenedl Noddfa yng Nghaerdydd. Yn 2022, gwnaethom ennill wobr Bwyd a Diod yn Aberystwyth. Mae hyn oll yn bosibl oherwydd caredigrwydd a chefnogaeth pobl Aberystwyth.
Ghofran Hamza
Helô, Ghofran ydw i, sylfaenydd a pherchennog Arabic Flavour, sef bwyty Dwyrain Canol cyntaf Ceredigion. Fy ethos yw cyfleu dilysrwydd a diwylliant trwy fwyd gwych. Yn ôl cylchgrawn y Guardian, mae fy mwyty ymysg y 15 o fwytai mudwyr gorau yn y DU. Dyma un yn unig o’r llwyddiannau ac anrhydeddau niferus y mae wedi bod yn fraint imi eu cael hyd yn hyn.
Adwitiya Pal
Fel newyddiadurwr, rwy'n angerddol dros adrodd straeon a dysgu mwy am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy’n credu ym mhŵer geiriau, delweddau a fideos, a’r ffordd y gallant lywio barn a syniadau, ac effeithio ar safbwyntiau a sgyrsiau. Rwy'n eiriolwr brwd dros hawliau dynol, cydraddoldeb a newid hinsawdd, ac yn credu mewn rhyddhau pobl o'r system gyfalafol ormesol. Deallaf fod y cyfryngau heddiw yn gwneud cam â’r cyhoedd drwy gynnal y sefyllfa fel y mae a thrwy droi clust fyddar i’r hyn y mae’r bobl wir yn galw amdano. Rwy'n gobeithio y gallaf, trwy fy ngwaith, wneud gwahaniaeth bach ond arwyddocaol.
Yuxi Huang
Yuxi Huang ydw i, o Tsieina. Mae dros flwyddyn a hanner ers i mi symud i Gaerdydd i astudio ar gyfer fy ngradd Meistr mewn newyddiaduraeth ryngwladol. Mae Cymru’n wlad sy’n llawn bwrlwm. Mae'r bobl ddiddorol a chyfeillgar yma yn gwneud i mi edrych ymlaen at straeon newydd gyda nhw bob dydd.
Shuhan Wang
Shuhan Wang ydw i. Yn wreiddiol o ogledd-orllewin Tsieina, deuthum i Gaerdydd i ddilyn fy astudiaethau ar 1 Hydref 2021, ac rwy’n byw yma ers blwyddyn a 4 mis erbyn hyn!
Mae Caerdydd weithiau’n fy atgoffa o fy nhref enedigol: tawel a heddychlon. Mae pobl yma wastad yn gyfeillgar, sy'n fy annog i fod yn fi fy hun yn fwy.
EYST
Cefnogi Pobl Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru. Sefydlwyd y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid yn 2005 gan grŵp o bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig yn Abertawe. Ei nod oedd llenwi bwlch mewn darpariaeth ar gyfer pobl ifanc BME 11-25 oed drwy ddarparu gwasanaeth cymorth wedi'i dargedu, sy'n gyfannol ac yn ddiwylliannol sensitif, i ddiwallu eu hanghenion. Ers hynny, mae EYST wedi ehangu ei genhadaeth a'i weledigaeth i ddiwallu anghenion pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion BAME hefyd, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghymru.
Ffion Williams
Helô, Ffion ydw i ac rwy'n cynrychioli Gorllewin Caerdydd yn Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae’r cyfle i leisio syniadau fy etholwyr ar lefel genedlaethol wedi bod yn un amhrisiadwy i mi o ran amlygu’r angen am gyfranogiad gwleidyddol ieuenctid, ac mae wedi golygu fy mod i wedi mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithdai sy’n canolbwyntio ar gael darlun o safbwynt pobl ifanc. Hoffwn fynd ar drywydd diwydiant gwleidyddol ymhellach drwy astudio gradd mewn hanes a gwleidyddiaeth yn y brifysgol y flwyddyn nesaf.
Y tu allan i wleidyddiaeth, rwyf wrth fy modd yn canu ac yn aelod o gôr hŷn fy ysgol: rwyf wrth fy modd â hunaniaeth Cymru fel gwlad y gân! Rwyf hefyd yn mwynhau mynd allan gyda ffrindiau, ac mae Caerdydd yn lleoliad perffaith ar gyfer hynny.
Credaf y dylem ddathlu ein treftadaeth lle bynnag y bo modd gan fod goroesiad ein hunaniaeth yn dibynnu arnom yn buddsoddi yn ein diwylliant. Cymru am byth!
Ellis Peares
Heia! Fy enw i yw Ellis Peares, rwy’n 16 oed a fi yw’r Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Ganol Caerdydd. Ychydig amdanaf fy hun: yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i eistedd ar y pwyllgor Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, gan helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yng Nghymru. Cefais y fraint hefyd o gael fy enwi ar y Rhestr Binc yn 2022, sy’n cydnabod yr ymgyrchwyr LHDTC+ mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn aelod o Wobr Iris, sy’n ŵyl o rai o ffilmiau LHDTC+ rhyngwladol mwyaf y byd.
Qahira Shah
Qahira ydw i. Rwy’n 15 oed ac rwy’n cynrychioli fy etholwyr yn Ne Caerdydd a Phenarth (yr etholaeth rydych chi ynddi heddiw!).
Y prosiectau rwy’n canolbwyntio arnynt ac yn siarad amdanynt yw rhoi croeso i ffoaduriaid yng Nghymru, tlodi plant, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy roi cyfle cyfartal i bawb. Rwyf wedi cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ac wedi mynd i lawer o ddigwyddiadau i ddod i adnabod pobl ifanc yn fy nghymuned a chlywed am y materion y maent am eu gweld yn cael sylw. Rwyf wedi ymweld ag ysgolion, wedi cynnal a siarad mewn digwyddiadau, wedi mynd igyfarfodydd, ac wedi codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer elusennau, a hynny i gyd fel y gall Cymru ddod yn lle diogel, croesawgar a chynhwysol i bawb.
I bob person ifanc: paid ag ofni codi llais a sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed!
Mahmudur Rahman
Mae Mahmudur, neu Max, yn 22 oed a fe yw perchennog a phrif hyfforddwr clwb pêl-droed dan 11 oed ar lawr gwlad yn Abertawe – SA1 Dragons. Mae Max wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau amrywiaeth ar sail rhywedd/hil/crefydd/profiad o fewn Dreigiau SA1. Mae'n frwd dros sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan yn y tîm.
Ar hyn o bryd, mae Max yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle mae’n astudio rheoli busnes ac yn gobeithio defnyddio ei wybodaeth a’i sgiliau i hybu ei freuddwydion o greu clybiau pêl-droed ledled Cymru sy’n hybu amrywiaeth ar bob lefel.
Rocio Cifuentes
Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Ei gwaith yw hybu a diogelu hawliau plant yng Nghymru.
Cyn iddi ddechrau fel Comisiynydd, Roedd Rocio Cifuentes yn Brif Weithredwr i Dîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EYST). Helpodd i sefydlu’r elusen hon yn 2005.
Yn ogystal â rhedeg EYST, bu Rocio hefyd yn gwasanaethu ar Bwyllgor Cymru ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a chadeiriodd Glymblaid Ffoaduriaid Cymru.
Mae hi hefyd wedi addysgu mewn coleg, wedi gweithio ym maes digartrefedd ieuenctid ac wedi sefydlu elusen o’r enw Mixtup ar gyfer pobl ifanc â galluoedd cymysg, gan gynnwys anableddau.
Daeth Rocio yn fabi i Gymru fel ffoadur gyda’i rhieni a oedd yn ffoi rhag unbennaeth Pinochet yn Chile yn y 1970au. Yn siaradwr Sbaeneg rhugl, mae Rocio wedi dechrau dysgu Cymraeg.
OASIS One World Choir
Ers 2015, mae Côr Un Byd OASIS wedi bod yn gweithio gydag Oasis Caerdydd, sy’n ganolfan ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, i gyflwyno prosiect Côr Un Byd Oasis.
Mae'r côr yn cynnwys rhwydwaith cefnogol iawn o wirfoddolwyr ym meysydd canu a cherddoriaeth. Daw'r gwirfoddolwyr hyn o gymuned leol Caerdydd yn ogystal ag o gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’r berthynas sy’n datblygu rhwng y bobl wych hyn o bob rhan o'r byd wrth iddynt greu cerddoriaeth gyda'i gilydd, ac wrth i rwystrau niferus gael eu chwalu ar y ffordd, yn dyst i ba mor arbennig ac unigryw yw’r prosiect hwn.
Person ifanc - Ar hyn o bryd yn aros mewn darpariaeth gadael gofal
Croeso yn fy iaith i yw 'Enkuae denan metsakum'. Y pethau rwy'n eu caru fwyaf am Gymru yw'r bobl, y byd natur a'r tywydd. Un peth rwy fwyaf balch ohono yng Nghymru yw bod y bobl mor gwrtais a chyfeillgar. Mater sy'n bwysig i fi nawr, yng Nghymru, yw coleg.