Wyddost ti fod gan bob un yng Nghymru BUM cynrychiolydd yn y Senedd, nid dim ond un?
Mae’r blog hwn yn egluro ble, sut a phryd y caiff y cynrychiolwyr hyn eu dewis.
Ble? Etholaethau a rhanbarthau
Mae Cymru wedi’i rhannu’n 40 o etholaethau sy’n weddol gyfartal o ran poblogaeth.
Mae pob un o’r etholaethau hyn yn perthyn i un o bum rhanbarth yng Nghymru. Caiff pedwar Aelod o’r Senedd eu dewis i gynrychioli pob un o’r rhanbarthau hyn.
Os wyt ti yn byw yng Nghymru, rwyt yn perthyn i etholaeth ac i ranbarth, felly bydd un Aelod etholaethol a phedwar Aelod rhanbarthol yn dy gynrychioli. Mae’n bosib canfod pa etholaeth a pha ranbarth rwyt ti’n perthyn iddynt yma.
Sut mae’r Aelodau’n cael eu dewis?
Caiff Aelodau o’r Senedd eu dewis gan bobl Cymru mewn etholiad bob pum mlynedd. Pan rwyt yn pleidleisio yn etholiad y Senedd, rwyt yn gwneud dau ddewis; un ar gyfer unigolyn i gynrychioli dy etholaeth a’r llall ar gyfer plaid wleidyddol i gynrychioli dy rhanbarth.
Caiff dwy system etholiadol wahanol (system Y Cyntaf I’r Felin a System Aelodau Ychwanegol) eu defnyddio i benderfynu pwy sy’n ennill!
Y cyntaf i’r felin
Mae’r dull hwn yn cael ei ddefnyddio i ddewis y cynrychiolwyr etholaethol. Mae’n syml iawn – yr unigolyn sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn yr etholaeth sy’n ennill, felly nhw fydd yn cynrychioli’r etholaeth honno yn y Senedd.
Rwyt ti siŵr o fod yn gyfarwydd â system Y Cyntaf I’r Felin, oherwydd dyma’r system sy’n cael ei defnyddio yn etholiadau cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig a’r rhan fwyaf o etholiadau llywodraeth leol (y cyngor).
System Aelodau Ychwanegol
Mae’r ffordd y caiff yr ymgeiswyr sy’n cynrychioli’r rhanbarthau eu hethol ychydig yn fwy cymhleth, ond fe ddylai’r wybodaeth isod helpu i egluro’r broses (gobeithio!).
Mae wyth etholaeth ym mhob rhanbarth - mae’n debygol y bydd cynrychiolwyr yr etholaethau hyn yn perthyn i bleidiau gwleidyddol penodol.
Dychmyga fod gennym bedair plaid wleidyddol – Melyn, Coch, Gwyrdd a Glas – yn Rhanbarth A.
Ym mhob rhanbarth, mae’r seddi etholaethol (Y Cyntaf I’r Felin) yn cael eu cyfrif yn gyntaf. Felly, er enghraifft, yn Rhanbarth A fe gawn y canlyniadau yma ar gyfer y seddi hynny:
- 6 o’r cynrychiolwyr etholaethol yn y rhanbarth yn perthyn i’r blaid ‘Melyn’;
- 2 yn perthyn i’r blaid ‘Coch’
- 0 yn perthyn i’r blaid ‘Gwyrdd’ neu’r blaid ‘Glas’.
Ar gyfer y bleidlais ranbarthol, bydd gofyn i ti ddewis plaid, felly dychmyga fod canlyniad y bleidlais ranbarthol fel a ganlyn:
Plaid |
Nifer y pleidleisiau |
Melyn |
7,000 |
Coch |
6,300 |
Gwyrdd |
3,000 |
Glas |
2,000 |
Mae’n rhaid rhannu nifer y pleidleisiau a gafodd plaid benodol gan â nifer y cynrychiolwyr sydd gan y blaid yn y rhanbarth yn barod plws un, i roi’r hyn a elwir yn gyniferydd. Gan ddefnyddio’r wybodaeth uchod, y cyniferydd yn yr achos hwn fyddai:
Plaid |
Cyniferydd |
Melyn |
7,000 ÷ 7 =1,000 |
Coch |
6,300 ÷ 3 = 2,100 |
Gwyrdd |
3,000 ÷ 1 =3,000 |
Glas |
2,000 ÷ 1 = 2,000 |
Mae’r blaid sydd â’r cyniferydd uchaf (sef Gwyrdd yn yr achos hwn) wedyn yn dewis cynrychiolydd ar gyfer y sedd ranbarthol gyntaf. Caiff y fformiwla hon ei hailddefnyddio hyd nes y bydd yr holl seddi rhanbarthol wedi’u llenwi.
Paid â phoeni os nad wyt wedi deall pob gair o’r uchod, y cyfan sydd wir raid i ti ei ddeall yw mai nod y broses hon yw sicrhau bod y Senedd yn cynrychioli safbwyntiau’r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.
Pryd elli di bleidleisio?
Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai 2021.