Mae rôl y Llywydd yn debyg i rôl Llefaryddion a Llywyddion eraill mewn seneddau ledled y byd.
Maen nhw'n goruchwylio trafodion, yn cynrychioli'r Senedd ar achlysuron a digwyddiadau seremonïol, ac yn cadeirio Comisiwn y Senedd.
Ond sut mae'r Llywydd yn cael ei ethol? Gadewch i ni weld sut mae'r broses yn gweithio.
Beth yw'r Broses ar gyfer Ethol y Llywydd?
Tasg gyntaf y Senedd yn ei chyfarfod cychwynnol ar ôl etholiad yw ethol Llywydd.
Dyma sut mae Llywydd y Senedd yn cael ei ethol:
Sut mae’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi?
Bydd y Cadeirydd yn cyhoeddi canlyniad yr etholiad i'r Senedd.
Bydd yr Aelod a etholir yn Llywydd yn cadeirio unrhyw fusnes sy’n weddill ar agenda’r Cyfarfod Llawn hwnnw, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd.
Eisiau gwybod mwy?
Dysgwch sut mae'r bleidlais gudd yn gweithio, sut mae'r Dirprwy Lywydd yn cael ei ethol a llawer mwy yn ein Canllaw i Fusnes Cynnar y Cyfarfod Llawn.