Ddiwedd 2023, fe ymddiswyddodd Mark Drakeford AS fel arweinydd Llafur Cymru, a chyhoeddodd y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog.
Ond gan nad yw etholiad nesaf y Senedd ddim tan 2026, sut y bydd Cymru'n dewis Prif Weinidog newydd?
Beth am edrych yn fanylach ar y broses.
Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ymddiswyddo
Pan fydd gornest arweinyddiaeth Llafur Cymru wedi dod i ben, ar 16 Mawrth 2024, bydd y Prif Weinidog yn annerch y Senedd i gyhoeddi ei ymddiswyddiad.
Yna bydd yn anfon ei ymddiswyddiad at y Brenin.
Ar ôl i’r Brenin ei dderbyn, mae'r Llywydd (Llefarydd y Senedd) yn hysbysu'r Senedd. Dyma pryd mae’r Prif Weinidog yn ymddiswyddo’n swyddogol.
Yna, mae'n amser enwebu
Mae Aelodau o'r Senedd yn ymgynnull yn y Siambr. Mae'r Llywydd yn gofyn i Aelodau o’r Senedd am enwebiadau i swydd y Prif Weinidog.
Gall unrhyw Aelod o'r Senedd enwebu un arall i fod yn Brif Weinidog. Maent fel arfer yn enwebu arweinydd plaid.
Os caiff un Aelod ei enwebu?
Y person hwnnw yw'r "enwebai".
Os caiff mwy nag un Aelod eu henwebu?
Mae holl Aelodau'r Senedd yn pleidleisio, ac eithrio'r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd (Dirprwy Lefarydd).
Ar ôl i'r Senedd ddewis Prif Weinidog newydd, mae'r Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell bod yr "enwebai" yn dod yn Brif Weinidog.
Bydd gweinidogion y llywodraeth yn aros yn eu swydd, ond ni fydd Cwnsler Cyffredinol (Swyddog Cyfraith Llywodraeth Cymru), nes i Brif Weinidog newydd gael ei benodi gan y Brenin.
Y cam olaf: mae’r Brenin yn penodi’r Prif Weinidog newydd
Pan fydd y Brenin wedi penodi'r Prif Weinidog newydd, bydd y Prif Weinidog yn dewis Aelodau o'r Senedd i fod yn weinidogion yn y Cabinet.
Ac felly mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ffurfio.