Aelodau’r Cynulliad i gofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu
4 Mai 2010
Mae Aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid sefydlu rheolau newydd sy’n ymwneud â chofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu.
O dan y Rheolau Sefydlog presennol, roedd eisoes yn ofynnol i Aelodau’r Cynulliad gofrestru beth yw gwaith eu priod ac unrhyw blant dibynnol. Roedd hyn yn golygu os oeddent yn cyflogi eu priod i weithio yn eu swyddfa yn y Cynulliad, roedd yn rhaid iddynt gofnodi’r ffaith.
O dan y rheolau newydd, am y tro cyntaf, bydd angen i Aelodau gofrestru os ydynt yn cyflogi aelodau o’r teulu, gan gynnwys brawd neu chwaer a nai neu nith.