Aelodau Seneddol o Ganada i ymweld â’r Cynulliad i rannu syniadau ynghylch annog pobl i bleidleisio

Cyhoeddwyd 14/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Aelodau Seneddol o Ganada i ymweld â’r Cynulliad i rannu syniadau ynghylch annog pobl i bleidleisio

14 Mawrth 2011

Bydd dirprwyaeth ffederal nodedig o Aelodau Seneddol Canada, yn cynrychioli dau Dy’r Senedd, yn ymweld â’r Cynulliad yr wythnos nesa (14-17 Mawrth) ar ymweliad rhyngseneddol swyddogol.

Bydd y ddirprwyaeth yn cynnwys yr Anrhydeddus Jim Abbott CG AS – o’r Blaid Geidwadol, y Seneddwr Anrhydeddus Jim Munson – o’r Blaid Ryddfrydol, y Seneddwr Anrhydeddus Richard Neufeld – o’r Blaid Geidwadol, yr Anrhydeddus Carolyn Bennett AS MD – o’r Blaid Ryddfrydol, a Stephanie Bond - Ysgrifennydd y Ddirprwyaeth.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol groesawu cynrychiolwyr o Senedd Canada.

Dros gyfnod o dridiau, byddant yn cymryd rhan mewn rhaglen i geisio galluogi’r ddwy ddeddfwrfa i rannu arfer da mewn meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin iddynt, gan gynnwys cyfranogiad dinasyddion, e-ddemocratiaeth, gweithio’n ddwyieithog, llywodraeth leiafrifol a llywodraeth glymblaid.

Yn ystod eu hymweliad, byddant yn dysgu am Gymru ac am ddatganoli, sut y mae’r Cynulliad yn ennyn diddordeb pobl Cymru drwy raglenni addysg a gwasanaethu allgymorth a sut y mae’n gwneud deddfau ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Byddant hefyd yn gwylio sesiwn Cwestiynau Prif Weinidog Cymru ac yn cael taith anffurfiol o amgylch ystâd y Cynulliad, gan gynnwys y Pierhead, sy’n adeilad eiconig rhestredig Gradd 1.

Yn ogystal â hyn, byddant yn bresennol yn y derbyniad i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad yn y Senedd, ynghyd â nifer o Aelodau’r Cynulliad.

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ddirprwyaeth o Ganada i Gymru. Bydd yr ymweliad, yn sicr, yn addysgiadol ac yn fuddiol iawn.

“Dyma’r ymweliad ffurfiol cyntaf rhwng y ddwy ddeddfwrfa ac, er bod y ddwy wlad yn bur wahanol, mae’n amlwg ein bod yn rhannu llawer o nodweddion cyffredin hefyd felly mae hwn yn gyfle da i ddysgu oddi wrth ein gilydd.