Rhaid i'r Awdurdod Refeniw Cymru newydd fod yn annibynnol, ac mae'n rhaid iddo gael siarter cryf sy'n nodi'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl ganddo, meddai pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn trafod y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a fyddai'n sefydlu corff i gasglu refeniw o drethi a ddatganolwyd i Gymru o dan Ddeddf Cymru 2014; sef treth tirlenwi a threth stamp.
Wrth gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, teimlai'r Pwyllgor y dylai statws Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fel corff annibynnol ar Lywodraeth Cymru gael ei wneud yn glir, fel y mae gyda chyrff cyfatebol fel Cyllid yr Alban a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
O safbwynt siarter ACC, teimlai'r Pwyllgor ei fod yn bwysig i'r Siarter nodi'n union yr hyn y gallai pobl Cymru ei ddisgwyl gan ACC, ac i'r gwrthwyneb.
"O dan bwerau datganoledig newydd, mae Cymru mewn sefyllfa i gasglu ei threthi ei hun am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Dyna pam y credwn fod Awdurdod Refeniw Cymru sy'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth; ac sy'n nodi ei ddiben a'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl ganddo mewn ffordd glir, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y busnes o reoli casglu trethi yn effeithlon ac yn effeithiol o'r cychwyn cyntaf."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 29 o argymhellion yn ei adroddiad (PDF, 1Mb), gan gynnwys:
- Y dylai'r Bil gael ei gryfhau i sicrhau bod Awdurdod Cyllid Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a dylai hyn gael ei nodi'n benodol ar wyneb y Bil;
- Y dylai'r Bil gael ei ddiwygio er mwyn atal Llywodraeth Cymru rhag ymyrryd yn swyddogaethau gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru, ac;
- Mae'n rhaid i'r Siarter gyfeirio'n benodol at wasanaeth o safon i'r trethdalwr a sut y bydd yn cael ei gymhwyso mewn perthynas â chyrff dirprwyedig sy'n gyfrifol am gasglu a rheoli trethi.
Bydd holl Aelodau'r Cynulliad nawr yn trafod ac yn pleidleisio ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) yn ystod y Cyfarfod Llawn fis nesaf. Os caiff ei gytuno, bydd y Bil yn symud ymlaen i ail gam proses ddeddfu'r Cynulliad.