Cyhoeddwyd 25/07/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Araith gan y Llywydd yn nerbyniad swyddogol y Llywydd a Mick Bates, Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd – Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 25 Gorffennaf 2007
Mae’n gyfnod cyffrous i wleidyddiaeth Cymru fel rhan o’r ymdaith tuag at bwerau deddfwriaethol llawn a Refferendwm yn 2011. Mae creu Llywodraeth glymblaid gyda Phlaid Cymru yn rhan ohoni am y tro cyntaf
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i drin Cymru wledig fel rhan gwbl annatod o ddyfodol economaidd ac amgylcheddol Cymru.Fel mae'r ddogfen - Cymru'n Un - yn dweud – “Byddwn yn rhoi cymorth i'r cymunedau hynny ym mhob rhan o gefn gwlad Cymru i greu dyfodol newydd. Ni fyddwn yn anghofio bod gennym ran i'w chwarae yn y gwaith o fynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang. Byddwn hefyd yn gofalu am ein hamgylchedd ac yn rhoi lle canolog i’r fferm deuluol yn ein strategaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd a datblygu cefn gwlad mewn modd cynaliadwy”.Dyna fesur o ymrwymiad y Llywodraeth i'n bywyd gwledig, yn ogystal â chynaliadwyedd.
Ond wrth gwrs - un o'r newidiadau mwyaf radical a phellgyrhaeddol yw i Ddeddf Llywodraeth Cymru greu gwahaniad llwyr rhwng Llywodraeth a Chynulliad, a fy rôl i fel Llywydd, ymhlith pethau eraill, yw sicrhau bod y Cynulliad yn cydio yn ei rymoedd newydd gyda brwdfrydedd ac arddeliad. Her i’r Cynulliad newydd yw sicrhau tryloywder, bod yn agored ac yn hygyrch. Mae cyfle i fod yn rhan o broses graffu ac nid yn unig i ddylanwadu ond hefyd i lunio deddfwriaeth newydd
Mae’r Cynulliad yn creu deddfau newydd am y tro cyntaf ac mae rôl allweddol i gymdeithas fod yn rhan o'r broses.Gall y cyhoedd ddylanwadu trwy’r system ddeisebau Bydd craffu go iawn, difrifol yn digwydd am y tro cyntaf trwy'r pwyllgorau newydd. Un o'r prif bwyllgorau yw'r Pwyllgor Cynaliadwyedd o dan Gadeiryddiaeth Mick Bates gall ef son fwy am waith ei bwyllgor OND
Dwi'n falch iawn bod yr is-bwyllgor fydd yn canolbwyntio ar faterion gwledig ac amaethyddiaeth wedi cyfarfod yma y bore 'ma am y tro cyntaf - cam gwbl naturiol sydd, rwy’n gobeithio yn adlewyrchu'r berthynas agos a ddylai fodoli rhwng ein pwyllgorau newydd a'r etholwyr.