Ardaloedd Menter - Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Cyhoeddwyd 14/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch ardaloedd menter heddiw, mae Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn.

Dywedodd Mr George:                                                                                                                                

"Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi'n cynnal ymchwiliad i effaith ardaloedd menter Cymru.

"Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau o'n bwriad i sefydlu cynnydd a chyflawniadau'r ardaloedd ynghyd â strategaeth y Llywodraeth ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol.

"Rydym yn nodi'r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth heddiw a byddwn yn ei ystyried fel rhan o'n tystiolaeth cyn rhyddhau ein canfyddiadau yn y dyfodol agos."

Mae'r sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i ardaloedd menter ar gael yma.