Bydd chwistrellwyr tân yn cael eu gosod ym mhob cartref newydd ar ôl i Aelodau’r Cynulliad gefnogi deddfwriaeth newydd
17 Chwefror 2011
Heddiw (16 Chwefror), pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad o blaid deddfwriaeth newydd sy’n gorfodi adeiladwyr tai i osod chwistrellwyr awtomatig mewn tai newydd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru) gan Ann Jones, yr Aelod Cynulliad dros Ddyffryn Clwyd, ar ôl iddi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno deddfwriaeth.
“Bydd y ddeddfwriaeth hon yn achub bywydau,” meddai Mrs Jones.
“Mae diogelwch tân mewn cartrefi wedi gwella dros y blynyddoedd, ond ni allwn anwybyddu’r ffaith bod 80 y cant o farwolaethau ac anafiadau oherwydd tân yng Nghymru yn dal i ddigwydd mewn cartrefi.
“Credaf y bydd gosod systemau chwistrellu mewn cartrefi yn gwneud gwahaniaeth yn y maes hwn, ac mae’r dystiolaeth yn cefnogi hynny.”
Bydd y Mesur yn mynd gerbron y Cyfrin Gyngor ar 7 Ebrill i’w gymeradwyo’n derfynol.
Diwedd