Mae Senedd Cymru wedi’i chanmol fel un o’r cyflogwyr gorau yn y DU ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n gweithio.
Mae'r elusen genedlaethol Working Families wedi cyhoeddi ei Phrif Gyflogwyr ar gyfer 2024, gan wobrwyo Comisiwn y Senedd gyda lle ymhlith y 30 gorau ar ei rhestr gystadleuol o gyflogwyr hyblyg, sy’n ystyriol o deuluoedd, yn y DU.
Rôl Comisiwn y Senedd yw cefnogi'r Senedd i sicrhau ei bod yn gweithredu'n llwyddiannus fel corff democrataidd. Dysgwch mwy
Mae cyflogwyr mawr a bach ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cystadlu bob blwyddyn am le a chwenychir ar restr yr elusen Working Families.
Yn gyson, mae Comisiwn y Senedd ymhlith y rhestr o’r goreuon, ac eleni mae’n rhannu llwyfan gyda chwmnïau rhyngwladol fel Aviva, bp, Royal Bank of Canada a’r cwmni cyfreithiol Rhyngwladol Mayer Brown ymhlith y 30 gorau.
Dysgwch fwy am restr flynyddol yr elusen Working Families
Buddion cynhwysol a hyblyg
Mae'r Senedd yn cynnig amrywiaeth o fuddion cynhwysol a hyblyg, i gefnogi pobl â chyfrifoldebau gofalu i ffynnu yn y gweithle.
Mae gweithio hyblyg, polisïau absenoldeb rhiant, a rhwydweithiau iechyd a llesiant ymhlith y nifer o wasanaethau sydd ar gael i weithwyr er mwyn eu cefnogi i gadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, ochr yn ochr â chyfleoedd dysgu a datblygu i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Dysgwch fwy am sut mae Comisiwn y Senedd yn cynnig amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhwysol