Comisiwn y Senedd yn cyrraedd safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl

Cyhoeddwyd 10/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2020

Mae Comisiwn y Senedd wedi cael ei gydnabod fel un o sefydliadau rheoli pobl mwyaf blaenllaw’r DU trwy gael achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl.

Dywedodd Manon Antoniazzi, y Prif Weithredwr:

“Mae'r wobr yn arwydd o ethos un tîm rhagorol y sefydliad cyfan ac roedd y gwaith a wnaeth pob aelod o’r tîm i gyfleu hynny yn dangos y balchder a'r angerdd sydd gennym, ac rydym wrth ein boddau dros bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni hyn.”

Mae'r Comisiwn wedi bod yn Fuddsoddwr mewn Pobl safon Aur ers sawl blwyddyn, ond cytunodd y Tîm Arwain ddiwedd y llynedd y byddwn yn gwneud ymgais i gyrraedd y safon Platinwm. Er mwyn cyrraedd y safon platinwm, mae angen i sefydliad gael sgôr “uchel ei berfformiad” yn 7 o'r 9 maes a asesir gan Buddsoddwyr mewn Pobl. Achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl yw'r uchaf y gellir ei gael ac, ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o sefydliadau achrededig Buddsoddwyr mewn Pobl sydd â’r achrediad hwnnw. Mae Comisiwn y Senedd yng nghwmni dim ond 10 o sefydliadau eraill yng Nghymru sydd â statws platinwm.

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl:

“Hoffem longyfarch Comisiwn y Senedd. Mae achrediad Platinwm yn ymdrech ryfeddol i unrhyw sefydliad, ac mae’n golygu bod Comisiwn y Senedd mewn cwmni da gyda llu o sefydliadau sy’n deall pa mor werthfawr yw pobl.”

Graddiwyd y Comisiwn gan aseswyr Buddsoddwyr mewn Pobl yn seiliedig ar arolwg staff a phortffolio o dystiolaeth, gyda staff o bob rhan o'r sefydliad yn cymryd rhan mewn gweithdai, cyfweliadau a grwpiau ffocws.

Diolchodd Lowri Williams, y Pennaeth Adnoddau Dynol a arweiniodd y cais, i'r staff a gyfrannodd at y wobr. Dywedodd:

“Fe wnaeth cymaint o aelodau staff ein helpu gyda hyn. Fe wnaethant roi cymaint o’u hamser i gael eu cyfweld, hyd yn oed yn ystod wythnosau cynnar rhyfedd y cyfyngiadau symud. Diolch i chi i gyd am gefnogi'r broses gyda chymaint o frwdfrydedd, ac rwy'n ddiolchgar i'm tîm Adnoddau Dynol sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi'r broses a dylunio mentrau newydd.”

Mae’r achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn para am dair blynedd.