Cryfhau pwerau’r Comisiynydd Safonau ar ôl i’r Frenhines gymeradwyo cyfraith newydd
10 December 2009
Bydd modd i Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru hyrwyddo, annog a diogelu safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â manteisio ar bwerau cryfach i ymchwilio i gwynion yn erbyn yr Aelodau.
Daw hyn yn sgil rhoi Cymeradwyaeth Frenhinol heddiw i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y Mesur gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
“Roeddem yn teimlo y dylai’r Comisiynydd Safonau annog safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad, ac y dylai gael pwerau cyfreithiol cryf i ymchwilio i unrhyw gwynion am gamwedd”, meddai Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Mae’r Pwyllgor yn credu y bydd y pwerau yn y Mesur yn gymorth i adfer hyder y cyhoedd yn ein cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.
“Mae hyn yn golygu y bydd y Comisiynydd Safonau bellach yn gwbl annibynnol ac y bydd ganddo ymddiriedaeth y cyhoedd.”
Bydd y Mesur Cynulliad yn sicrhau bod y Comisiynydd Safonau:
yn gallu hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad;
yn meddu ar bwerau i’w alluogi i ymchwilio’n drylwyr i gwynion;
yn gwbl annibynnol o’r Cynulliad ac felly’n gallu gweithredu gyda gwrthrychedd llwyr.