Bydd Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd yn cael ei gynnal am 3.00 o’r gloch ar brynhawn Mercher 12 Mai 2021.
Y dasg gyntaf i’r 60 Aelod o’r Senedd fydd ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd, ac yna enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog, os bydd y Senedd yn penderfynu gwneud hynny.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal mewn fformat hybrid. Yn unol â’r rheoliadau Coronafeirws cyfredol, gall 20 o Aelodau fod yn bresennol yn y Siambr, a bydd y 40 sy’n weddill ymuno ar-lein (drwy gyfrwng Zoom) o'u swyddfeydd yn Nhŷ Hywel.
Bydd papurau pleidleisio yn cael eu defnyddio ar gyfer y bleidlais gyfrinachol i ethol y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd. Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn adeilad y Senedd, gyda phawb yn cadw pellter cymdeithasol.
Bydd yr agenda llawn yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Senedd a’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu yn fyw ar Senedd TV.
Trefn Ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd
Yn y cyfarfod cyntaf, ar 12 Mai, mae’n rhaid i'r Senedd ethol Llywydd yn gyntaf ac yna Dirprwy Lywydd.
Rhaid i hyn ddigwydd cyn pen 21 diwrnod ar ôl yr etholiad (a4 Deddf Etholiadau Cymreig (Coronafirws) 2021).
Mae'r gweithdrefnau yn union yr un fath ac fe'u hamlinellir isod:
- Mae'r Cadeirydd yn gwahodd enwebiadau.
- Rhaid i enwebiad gael ei eilio gan Aelod nad yw'n perthyn i'r un grŵp gwleidyddol â'r Aelod sy'n enwebu.
- Os mai dim ond un enwebiad sy’n cael ei gynnig, bydd y Cadeirydd yn cynnig ethol yr Aelod hwnnw. Os oes gwrthwynebiad, bydd pleidlais gudd yn digwydd. Os nad oes gwrthwynebiad, etholir yr Aelod.
- Os oes mwy nag un enwebiad, bydd pleidlais gudd yn digwydd. Os enwebwyd dau Aelod, etholir yr Aelod sy'n sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau a fwriwyd yn y balot.
Bydd y Cadeirydd (y Llywydd blaenorol os nad yw’n ymgeisydd neu Clerc y Senedd) yn cyhoeddi canlyniad yr etholiad i'r Senedd. Bydd yr Aelod a etholir yn Llywydd yn cymryd y cadair ar gyfer unrhyw eitemau busnes sy'n weddill, gan gynnwys ethol y Dirprwy Lywydd a fydd yn digwydd yn syth wedyn.
Wrth ethol Dirprwy, yn ôl y rheolau, mae’n rhaid i’r person fod yn aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i’r Llywydd. Mae’n rhaid bod un yn aelod o grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol (h.y. mewn llywodraeth) a’r llall o grŵp gwleidyddol sydd ddim mewn llywodraeth.
Trefn Enwebiad y Prif Weinidog
Rhaid i'r Senedd enwebu Aelod i'w benodi'n Brif Weinidog cyn pen 28 diwrnod ar ôl etholiad Senedd. Mae hyn yn digwydd ar ôl ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.
Gwahoddir y Senedd gan y Llywydd i gytuno bod enwebiadau'n digwydd. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, gelwir pleidlais electronig. Bydd y broses enwebu yn digwydd dim ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy'n pleidleisio yn cytuno. Amlinellir y weithdrefn isod:
- Mae'r Llywydd yn gwahodd enwebiadau.
- Os mai dim ond un enwebiad sydd ar gael, bydd y Llywydd yn datgan mai'r Aelod hwnnw yw'r enwebai.
- Os oes mwy nag un enwebiad, gofynnir i'r Aelodau bleidleisio dros eu henwebai dewisol, trwy alwad ar y gofrestr.
- Os yw dau Aelod wedi'u henwebu, bydd yr Aelod sy'n sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ddatgan yn enwebai. Os yw mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, bydd yr Aelod sy'n sicrhau mwy o bleidleisiau nag a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd arall yn cael ei ddatgan yn enwebai.
Bydd y Llywydd yn cyhoeddi'r canlyniad i'r Senedd. Bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi'r Aelod a enwebwyd gan y Senedd yn Brif Weinidog.