Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Cyfyngu nifer yr Aelodau yn y Siambr – Llythyr gan y Llywydd
Cyhoeddwyd 24/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae'r Llywydd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad ynghylch y Sesiwn Lawn ar ddydd Mawrth, Mawrth 24, a fydd yn cynnwys newidiadau gan gynnwys cyfyngu ar nifer yr aelodau sy'n mynychu.
Gweler isod am destun llawn y llythyr gan y Llywydd, Elin Jones AC, at bob Aelod Cynulliad.
Annwyl Aelodau,
Yn dilyn cyhoeddiad ar ymestyniad pellgyrhaeddol ar fesurau cyfyngu sy'n dod i rym ar Mawrth 24, rwy'n ysgrifennu i'ch hysbysu o newidiadau i fusnes y cyfarfod llawn fory.
Bydd y Cyfarfod Llawn yn cychwyn am 10am fel y disgwyl. Trefn y busnes fydd datganiad gan y Prif Weinidog ar y Coronafeirws (COVID-19), datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Coronafeirws (COVID-19), y Cynnig Cytundeb Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws, a'r newidiadau brys i'r Rheolau Sefydlog a gytunwyd heddiw gan y Pwyllgor Busnes.
Mae Rheolwyr Busnes wedi cyrraedd cytundeb gwleidyddol i gyfyngu'r nifer o Aelodau fydd yn mynychu'r Siambr (Llywodraeth 6, Ceidwadwyr 3, Plaid Cymru 2, Plaid Brexit 1). Rwy'n annog yr aelodau annibynnol i wneud yr un fath.