Cyhoeddi Pedwerydd Balot y Llywydd ar gyfer Bil Aelod
1 Mawrth 2012
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi y bydd y balot nesaf ar gyfer Bil Aelod yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mawrth.
Mae gan yr Aelodau tan ddydd Gwener 16 Mawrth i gyflwyno cynigion, a chaiff canlyniad y balot ei gyhoeddi gan y Llywydd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth.
Mae’r cynigion a gafodd eu dethol mewn balotau blaenorol yn cynnwys materion yn ymwneud â chartrefi mewn parciau, a gyflwynwyd gan Peter Black AC a pharhad o ofal i fywyd fel oedolyn, a gyflwynwyd gan Ken Skates AC.
Canllaw i broses ddeddfu'r Cynulliad