Datganiad: Tata Steel yn dirwyn trafodaethau gyda'r undeb i ben a chadarnhau cynlluniau ar gyfer ailstrwythuro

Cyhoeddwyd 25/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:

“Mae’n drist iawn clywed bod Tata wedi rhoi’r gorau i’w drafodaethau â'r undebau dur a’i fod yn bwriadu bwrw ymlaen â'i gynigion i gau'r ddwy ffwrnais chwyth. Mae'r Senedd gyfan wedi bod yn glir mai’r peth cywir i’w wneud fyddai cadw ffwrnais chwyth ar agor ym Mhort Talbot yn ystod y cyfnod o bontio i ffwrnais arc drydan.

“Bydd goblygiadau mawr i weithwyr a'u cymunedau yn sgil y penderfyniad hwn. Mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cefnogi drwy'r newid enfawr hwn.

“Rydym hefyd yn siomedig o weld Tata yn defnyddio cynigion diswyddo fel sglodyn bargeinio â’r gweithlu – dylai pob gweithiwr sy’n cael ei ddiswyddo allu hawlio'r pecyn diswyddo uwch a gynigiwyd eisoes – heb fod unrhyw amodau ychwanegol ynghlwm.

“Rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithredu'n gyflym i gefnogi'r rhai a gaiff eu diswyddo i symud i gyflogaeth newydd o safon ac i sicrhau na fyddwn yn colli’r gronfa dalent gref sydd gennym ar hyn o bryd yng ngweithfeydd dur de Cymru.”