Mae pobl gyffredin sydd wedi llywio stori Senedd Cymru yn cael eu dathlu yn eu harddangosfa eu hunain yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae arddangosfa Eich Llais yn cynnwys straeon saith o bobl sydd wedi defnyddio'u lleisiau yn y Senedd i alw am newid. Maen nhw’n cynnwys y person a gyflwynodd ddeiseb a oedd yn galw am i dâl gael ei godi am fagiau siopa untro; mam alarus a gychwynnodd ymgyrch a arweiniodd at well cefnogaeth i rieni yn dilyn profedigaeth; ac ymgyrchydd canser a oedd yn benderfynol o sicrhau gwell triniaeth i fenywod ledled Cymru.
Mae arddangosfa Eich Llais, sydd yn y Senedd tan 11 Tachwedd 2024, yn gyfle i wylio a gwrando ar straeon unigol y bobl yn eu geiriau eu hunain, ac mae’n rhan o ddathliadau’r Senedd sy’n nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.
Y bobl sydd wedi defnyddio eu llais
Un o’r bobl mae’r arddangosfa yn ymdrin â nhw yw Neil Evans o Gaerfyrddin a gyflwynodd ddeiseb a oedd yn rhan o'r ymgyrch a helpodd i sicrhau mai Cymru, yn 2011, oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro.
Yn dilyn colled drasig ei mab a'i gŵr o fewn pum diwrnod i'w gilydd, dechreuodd Rhian Mannings o Feisgyn, Rhondda Cynon Taf ddeiseb i’r Senedd a alwodd am well cefnogaeth i rieni yn dilyn marwolaeth sydyn plentyn. Arweiniodd y ddeiseb a'i hymgyrch elusennol 2Wish at y Llywodraeth yn cyflwyno gwasanaeth profedigaeth i rieni o fewn 48 awr i farwolaeth plentyn.
Defnyddiodd Claire O'Shea o Gaerdydd ei phrofiad ei hun i helpu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn eu hymchwiliad i wasanaethau canser gynaecolegol yng Nghymru. Ar ôl i’w phryderon gael eu diystyru gan feddygon dro ar ôl tro, a arweiniodd at oedi o ran diagnosis a thriniaeth, mae Claire yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau i fenywod ledled Cymru, a hynny ar frys.
Mae Sarra Ibrahim, o Gaerdydd, wedi gwneud sawl cyfraniad gwerthfawr i waith Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, gan sicrhau llais i fenywod lleiafrifol sydd wedi dioddef trais ar sail rhywedd.
Yn 2016, Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cyfraith sy’n cysylltu niferoedd staff nyrsio ag anghenion cleifion. Chwaraeodd Lisa Turnbull o’r Coleg Nyrsio Brenhinol ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), sydd wedi newid sut mae ysbytai yn sicrhau bod ganddyn nhw’r lefel gywir o staff i fodloni anghenion gofal cleifion.
Mae arddangosfa Eich Llais hefyd yn rhoi sylw i ddau berson ifanc dylanwadol a fu’n aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf o 2018 tan 2021. Roedd Angel Azeadum o Gaerdydd a Cai Phillips o sir Gaerfyrddin yn rhan o’r garfan gyntaf o 60 i ddod â lleisiau pobl ifanc Cymru i graidd y drafodaeth yn y Senedd.
Pobl sy'n llywio stori'r Senedd
Yn ôl Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: “O’r cychwyn cyntaf, mae lleisiau pobl wedi llywio stori’r Senedd a byddan nhw’n helpu i lywio ei dyfodol hefyd.
“Ers 25 mlynedd, mae ein pwyllgorau wedi troi at bobl yng Nghymru wrth iddyn nhw ymchwilio i’r materion sydd o bwys, gan bwyso am newidiadau i wella bywydau. Mae deisebau i’r Senedd, a’u miloedd o lofnodion, wedi newid y gyfraith yng Nghymru, o leihau’r defnydd o blastig untro i ddiogelu lles anifeiliaid, ac mae Aelodau’n gweithio’n galed yn eu cymunedau bob dydd, yn siarad â phobl am y materion sydd o bwys iddyn nhw.
“Mae gwleidyddion wedi mynd a dod, gan wneud eu cyfraniadau eu hunain. Ond nid Senedd y gwleidyddion yw hon - mae'n perthyn i bobl Cymru, sef y rhai a luniodd ei dechreuad ac sy'n llywio ei dyfodol. Mae’n bwysig ein bod yn dathlu’r ffaith bod defnyddio eich llais yn gallu gwneud gwahaniaeth.”
Defnyddiwch Eich Llais
Ers dechrau’r Senedd ym 1999, mae miloedd ohonoch wedi gweithio gyda phwyllgorau ac Aelodau o’r Senedd ar faterion sydd o bwys i Gymru, gan bwyso am newidiadau i wella bywydau.
Mae llawer o ffyrdd i bobl sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Maen nhw’n gallu cysylltu ag un o eu Haelodau lleol, dechrau deiseb i alw am weithredu ar fater sy’n bwysig iddyn nhw, dweud eu dweud ar fater y mae un o’n pwyllgorau yn ymchwilio iddo, neu ddod i ymweld â’r Senedd.
Gallwch weld arddangosfa Eich Llais yn y Senedd o fis Medi tan 11 Tachwedd 2024. I ddysgu mwy am weithgareddau yn y Senedd, gan gynnwys sut i ymweld, archebu teithiau ac arddangosfeydd eraill, ewch i wefan Ymweld â ni