Deiseb Parth Menter Casnewydd i’w chyflwyno yn y Senedd
10 Tachwedd 2011
Cyflwynwyd deiseb yn y Senedd ddydd Mercher 9 Tachwedd sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i greu Parth Menter yng Nghasnewydd.
Mae’r ddeiseb, a gychwynnwyd gan David Williams, Cynghorydd ar gyfer dinas Casnewydd, yn galw ar Aelodau’r Cynulliad i drafod y mater yn y Senedd.
Rhoddwyd y ddeiseb i aelodau’r Pwyllgor Deisebau trawsbleidiol, sy’n cael ei gadeirio gan yr Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, William Powell AC.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddeisebu i’w chael yma