Diwrnod i nodi cerrig milltir democratiaeth Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Tachwedd 2009
Cynhelir digwyddiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Sul (8 Tachwedd) i nodi cerrig milltir democratiaeth Cymru ar y cyd â Llafur, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.
Teitl y digwyddiad yw ‘Cerrig Milltir Democratiaeth Cymru: o Siartiaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol’, a bydd yn nodi 170 mlynedd ers Gwrthryfel De Cymru yn 1839, y ffaith y gallai menywod bleidleisio am y tro cyntaf yn 1929, a 10 mlynedd o ddatganoli.
Agorir y digwyddiad ag araith gan yr Athro K. O. Morgan, sef ‘Newid democrataidd, o Siartiaeth i ddatganoli’.
Yna bydd Christine Chapman AC yn cyflwyno araith ar ‘Merched a newid democrataidd yng Nghymru, o’r suffragettes i ddatganoli’, a bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, yn arwain sesiwn holi ac ateb ar 10 mlynedd o ddatganoli, a dyfodol datganoli yng Nghymru.
“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu rhai o’r llwyddiannau mwyaf sydd â’u gwreiddiau yn hanes Cymru, ac sy’n berthnasol i’n bywydau heddiw,” meddai’r Llywydd.
“Pa le gwell i nodi cerrig milltir hanes Cymru na’r adeilad hon, lle rydym yn nodi 10 mlynedd o ddatganoli ac yn deddfu ar gyfer pobl Cymru am y tro cyntaf ers y 10fed ganrif”.