Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o noddi Pebyll y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019.
Drwy gydol yr wythnos, bydd pobl yn gallu ymweld â'n stondin ym Mhabell y Cymdeithasau i ddysgu am y gwahanol ffyrdd mae modd cyfrannu at waith y Cynulliad.
Hefyd, rydym yn gweithio gyda partneriaid i gyflwyno pum sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau a fydd yn trafod themâu sy'n cynnwys addysgu hanes Cymru, nodi 20 mlynedd o Ddatganoli, pwerau cyllidol Cymru, menywod a datganoli, a sut i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan ddefnyddio plastigau untro.
Dydd Llun 5 Awst 11:30
Cymdeithasau 2
Deall ein hanes – Addysgu hanes a diwylliant Cymru
Partner: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Sut allwn sicrhau bod plant Cymru yn deall hanes eu cymunedau a’u gwlad? Ymunwch â thrafodaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cymru a fydd yn gofyn a fydd cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen i gyflawni’r amcan hwn.
O dan cadeiryddiaeth Delyth Jewell AC, Aelod Cynulliad dros De Ddwyrain Cymru ac Aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, bu'r panel yn cynnwys:
- Yr Athro Huw Pryce, Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor;
- Elin Tomos, Hanesydd Merched Chwarel;
- Ifan Jones, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Ynys Môn;
- Ifan Price, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, Dwyfor Meirionydd; a
- Leona Huey, PhD Prifysgol Bangor.
Dydd Mawrth 6 Awst 11:00
Cymdeithasau 1
Dyfodol cyllidol Cymru – cau’r bwlch cyllidol
Partner: Canolfan Llywodraethiant Cymru
Guto Ifan a Cian Sion, tîm dadansoddi cyllidol Cymru o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fydd yn cyflwyno’r dadansoddiad diweddaraf o holl wariant a refeniw'r Llywodraeth yng Nghymru.
Bydd y cyflwyniad a’r drafodaeth yn canolbwyntio ar y ffordd y mae llymder wedi effeithio ar wariant Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol; effaith datganoli trethi; a’r rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Byddant yn trafod beth mae’r ffigyrau a’r rhagolygon diweddaraf yn ei ddatgelu am berfformiad economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac yn gofyn sut y mae cau’r bwlch cyllidol rhwng gwariant a refeniw.
Dydd Mercher 7 Awst 11:30
Cymdeithasau 2
Cymru a datganoli: edrych yn ôl ac edrych ymlaen
Partner: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
A hithau bellach yn 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol bydd y sesiwn banel hon yn edrych yn ôl ar hynt gwleidyddiaeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn o ddatganoli gwleidyddol. A grëwyd gwleidyddiaeth fwy cynhwysol a chyfranogol? Pa newidiadau pwysig a welwyd yn y pleidiau gwleidyddol? Sut mae cymdeithas sifil wedi ymateb i ddatganoli? Beth yw’r dyfarniad ar bolisïau cyhoeddus Llywodraeth Cymru? A beth y gellir ei ddisgwyl wrth i broses Brexit rygnu yn ei flaen?
Mae’r panel yn cynnwys cyn-fyfyrwyr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth:
- Sara Gibson, BBC Cymru (Cadeirydd);
- Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru;
- Dafydd Trystan, Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
- Owain Clarke, BBC Cymru; a
- Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth.
Dydd Iau 08 Awst 11:00
Cymdeithasau 1
Menywod a datganoli yng Nghymru
Partner: Archif Menywod Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i gael yr un nifer o fenywod a dynion yn cynrychioli’r cyhoedd. Ond, beth oedd rôl menywod yn yr ymgyrch i sefydlu datganoli a’r Senedd?
Wrth i ni nodi ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, bydd Elliw Gwawr (Newyddiadurwraig Gwleidyddol y BBC) yn cadeirio sgwrs unigryw gydag Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Catrin Stevens (Cadeirydd Archif Menywod Cymru) a Sian Powell (Prif Weithredwr Golwg) ynghylch dylanwad menywod ar y daith tuag at ddatganoli a dyfodol y fenter hon.
Dydd Gwener 09 Awst 11:30
Cymdeithasau 2
Senedd Ieuenctid Cymru – Beth i’w wneud gyda’n gwastraff?
Partner: Senedd Ieuenctid Cymru
Fel rhan o’u gwaith ymchwil mewn i sbwriel a gwastraff plastig, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â’u trafodaeth ar sut y gall unigolion, cymunedau a Chymru fel cenedl oresgyn y problemau a achosir gan blasting untro. Dyma drafodaeth agored i'r rhai ar y Maes i gyfrannu a chodi cwestiynau ar waith Senedd Ieuenctid Cymru.
Bydd Talulah Thomas, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros De Clwyd yn cadeirio, gyda panelwyr yn cynnwys:
- Brengain Glyn Williams, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon, a Aelod o’r Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig;
- Llyr Gruffydd AC, Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Gogledd Cymru, a Aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig; a
- Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor.
- Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.