Cyhoeddwyd 15/11/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor newydd Plant a Phobl Ifanc
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad ei gynnal yn y Senedd heddiw.
Swyddogaeth y Pwyllgor yw ystyried a chyflwyno adroddiadau ar faterion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’n bwyllgor newydd yn y Cynulliad Cenedlaethol a chymerwyd y penderfyniad i’w sefydlu er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd y ffaith fod polisïau ar gyfer plant yng Nghymru yn ymatebol a phriodol.
Dywedodd Helen Mary Jones AC, a etholwyd fel Cadeirydd y Pwyllgor: “Yr wyf wrth fy modd o gael cadeirio’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc newydd. Mae maes gwaith y pwyllgor yn lledu ar draws yr holl faterion datganoledig, o faes Iechyd i Addysg i Gyfleoedd Cyfartal a Diwylliant, ac felly mae cwmpas y cyfrifoldeb yn eang iawn. Edrychaf ymlaen at yr her ac at weithio gyda holl aelodau’r pwyllgor i sicrhau fod anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu hystyried yn llawn wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau."
Mwy o wybodaeth ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc