Ethol Cadeiryddion newydd Pwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 11/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ethol Cadeiryddion newydd Pwyllgorau’r Cynulliad

Cyfarfu pedwar Pwyllgor newydd y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher 11 Gorffennaf ac ethol eu Cadeiryddion. Etholwyd Jonathan Morgan AC yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd. Dywedodd: "Fel yr AC gyda’r ysbyty fwyaf yng Nghymru yn fy etholaeth ‘rwy’n falch iawn o fod yn Cadeirio’r Pwyllgor Iechyd newydd. Mae’r cyfrifoldeb yn un anferth ac edrychaf ymlaen at yr her o gydbwyso’n rôl graffu yn y byd iechyd ac yn wir â chraffu llywodraeth leol, sydd wedi’i ychwanegu at ein cyfrifoldeb. Gwn y bydd y Pwyllgor newydd yn effeithiol wrth graffu a ble bo angen, wrth feirniadu polisïau’r llywodraeth, ac fel Cadeirydd newydd byddaf yn fodlon mynegi fy safbwyntiau fy hunan yn glir." Etholwyd Ann Jones AC yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Dywedodd: "’Rwy’n hapus o fod wedi cael fy ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal newydd. Mae ymrwymiad angerddol i faterion cydraddoldeb wedi bod yn gymhelliad mawr i mi erioed ac ‘rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda holl aelodau’r Pwyllgor i sicrhau fod polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn effeithiol wrth geisio unioni pob math o anghydraddoldeb sy’n parhau i effeithio ar Gymru." Etholwyd Janice Gregory AC yn Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant. Dywedodd hi: “’Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o gadeirio’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant newydd ac at weithio gydag aelodau eraill i sicrhau ein bod yn gallu craffu’n effeithiol ar bolisïau’r Llywodraeth mewn meysydd mor bwysig â thai a diogelwch cymunedol.” Etholwyd Gareth Jones AC yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu. Dywedodd: "Mae cylch gwaith y Pwyllgor hwn yn allweddol i lawer o faterion heriol sy’n wynebu pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gadeirio’r Pwyllgor a gweithio gyda’r aelodau eraill i gyflawni gwaith craffu effeithiol ar y llywodraeth.”