Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ynghylch sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol dan gyd-gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad:
"Rwy'n croesawu sefydlu'r Grŵp hwn fel ymateb uniongyrchol i'r pryderon sylweddol a amlinellir gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ein hadroddiad diweddar ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yng Nghymru."
"Mae'r Pwyllgor yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau, fel mater o frys, y gwneir y newid sylweddol sydd ei angen i gefnogi lles emosiynol ein plant a'n pobl ifanc."
"Mae cydweithredu ar draws sectorau a phroffesiynau yn allweddol i hyn, ac fel cyfranogwr annibynnol yng ngwaith y Grŵp, fe wnaf bopeth y gallaf i sicrhau y defnyddir 'model system gyfan' o ran iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru."
Sefydlir y Grŵp yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Cadernid Meddwl, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018. Roedd yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newid sylweddol yn y cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl a roddir i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gan nodi mai'r her i'w hwynebu ar frys yw gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod costau salwch meddwl a salwch emosiynol - yn bersonol i'r unigolion a'u teuluoedd, ac i bwrs y wlad - yn rhy uchel i beidio â cheisio atal y llif yn gynharach.
Ym mis Gorffennaf 2018, gwrthododd y Pwyllgor ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.
Mynegwyd y siom ar draws y pleidiau yn Siambr y Senedd, a galwodd y Pwyllgor ar Ysgrifenyddion y Cabinet i ailystyried eu hymateb.
Yn dilyn cyhoeddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol, mae'r Pwyllgor wedi galw am ymateb ysgrifenedig diwygiedig erbyn Mawrth 2019, i adlewyrchu gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a gwaith parhaus y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.