Llywydd y Cynulliad yn cychwyn ar daith drwy Gymru gyfan i annog pobl i bleidleisio
17 Tachwedd 2010
Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn y Drenewydd ddydd Gwener (19 Tachwedd) i hyrwyddo neges ymgyrch Pleidleisiwch 2011 ymhlith .
Dyma ran gyntaf o’i daith genedlaethol drwy ogledd, canolbarth a de Cymru dros y misoedd nesaf i geisio annog pobl i droi allan a phleidleisio’r flwyddyn nesaf.
Mae’r daith yn rhan o ymgyrch ehangach, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i gyflwyno gwybodaeth wrthrychol ac amhleidiol i bleidleiswyr Cymru am y tair pleidlais a fydd yn eu hwynebu yn y blwch pleidleisio’r flwyddyn nesaf.
Yn 2011 bydd:
- Refferendwm ar 3 Mawrth i ofyn a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael rhagor o bwerau deddfu;
- Bydd etholiad ar 5 Mai i ethol Aelodau’r Cynulliad i’n cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
- Ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad, gofynnir i ni a ddylem ethol ein Haelodau Seneddol yn San Steffan drwy system bleidleisio wahanol.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio’n benodol ar annog y rhai a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, a’r rhai nad ydynt yn pleidleisio fel arfer, i fynd i’r blwch pleidleisio ddwywaith, ar gyfer y tair pleidlais hyn, y flwyddyn nesaf.
Dyna pam y bydd y Llywydd yn cyfarfod â disgyblion chweched dosbarth Ysgol Uwchradd y Drenewydd i sôn am y modd y gall y Cynulliad Cenedlaethol, a gwleidyddion yn fwy cyffredinol, ymgysylltu â phobl ifanc.
“Bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn hynod bwysig i ni i gyd” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.
“Bydd angen i ni ddewis nid yn unig pwy sy’n ein cynrychioli ni yn y Senedd ond hefyd a ddylai’r cynrychiolwyr etholedig hynny gael rhagor o bwerau i wneud deddfau i Gymru.
“Dyma pam rwy’n ceisio ymweld â chynifer o rannau o Gymru â phosibl i siarad â phobl fel y disgyblion chweched dosbarth yn y Drenewydd ac ymgysylltu â nhw.
“Neges syml iawn sydd gennyf, eich Cynulliad Cenedlaethol chi ydyw, felly ewch ati i ddweud eich dweud.”
Bydd y bobl ifanc o’r Drenewydd yn cyfarfod â’r Arglwydd Elis-Thomas ar Fws y Cynulliad Cenedlaethol, cyfleuster rhyngweithiol sy’n caniatáu i bobl roi sylwadau am waith y Cynulliad a gadael negeseuon i’w Haelodau lleol.
“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i siarad â’r Llywydd gan fod cynifer o fyfyrwyr yng Nghymru nad ydynt yn deall y drefn bleidleisio,” meddai Pennaeth y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd, y myfyriwr Rob Stephens.
“Yn y chweched dosbarth, byddwn yn astudio gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr fel rhan o’r cwricwlwm a bydd y cyfle hwn yn ychwanegu at y gwaith hwnnw.
I gael rhagor o fanylion am y Refferendwm ac ymgyrch Pleidleisiwch 2011 y Cynulliad, ewch i Pleidleisiwch 2011.
FYDDWCH CHI’N METHU’R DAITH?
Mae’r Llywydd hefyd yn gofyn i bobl Cymru gysylltu ag ef drwy rwydweithiau cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol. Os na fedrwch ddod i’w gyfarfod ar y daith, gallwch ofyn cwestiynau iddo drwy’n tudalennau ar Facebook a drwy Twitter.
Gall pobl naill ai chwilio am Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar safle Facebook a gadael neges ar ein wal, neu anfon cwestiynau i @cynulliadcymru ac ychwanegu’r hashtag #pleidleisiwch2011.
Bydd y Llywydd naill ai’n ateb y cwestiynau yn ystod ei daith neu’n ddiweddarach ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. Manylion i ddilyn.