Pleidleisiau’r refferendwm yn cael eu cyfrif yn y Senedd ar 4 Mawrth

Cyhoeddwyd 25/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Nodyn i’r Dyddiadur

Diary Note

Pleidleisiau’r refferendwm yn cael eu cyfrif yn y Senedd ar 4 Mawrth

25 Chwefror 2011

Bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyfrif pleidleisiau’r refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 4 Mawrth.

O ganlyniad i hyn, bydd y Senedd ar gau i’r cyhoedd drwy’r dydd.

Bydd yr adeilad hefyd ar gau i Aelodau’r Cynulliad a’u staff, staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Llywodraeth Cymru sydd â phasys i’r adeilad.

Dim ond pobl sydd wedi eu hachredu gan y Comisiwn Etholiadol fydd yn cael mynediad i’r adeilad.

I gael rhagor o wybodaeth am gael eich achredu, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol.