Bydd disgyblion o ysgolion cynradd yn helpu i addurno tair coeden Nadolig a gaiff ei harddangos yn y Senedd dros gyfnod yr ŵyl.
Bydd disgyblion o Ysgol Bro Sannan, Aberbargod, Ysgol Gynradd Gwndy yn Nhrefynwy, ac Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd yn ymuno â'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn y Neuadd am 10.00 ar 4 Rhagfyr.
Byddant yn creu eu haddurniadau eu hunain i'w gosod ar y goeden, ac ystyried eu "gobeithion ar gyfer y flwyddyn newydd", gan roi cyfle i blant fyfyrio ar y flwyddyn a fu, a rhannu eu dymuniadau â phobl Cymru.
Bydd yr addurno yn digwydd cyn cyngerdd carolau'r Cynulliad am 12.00, a gaiff ei gynnal mewn cydweithrediad â Celfyddydau a Busnes Cymru a noddwr y digwyddiad, Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd y Llywydd, "Mae naws hudolus y Nadolig yn arbennig iawn i bobl ifanc, felly mae'n gwbl briodol bod plant yn ein helpu i nodi'r ŵyl".
"Caiff y coed ei haddurno gan bobl ifanc a bydd yn gefnlen i gyngerdd carolau blynyddol y Cynulliad."
Bydd y cyngerdd carolau yn cynnwys perfformiadau gan Julia Sitkovetsky, Rwsia (Soprano) a Romanas Kudriasovas, Lithwania (Bariton), sy'n artistiaid ar ymweliad o Academi Llais Rhyngwladol Cymru.
Bydd darlleniadau gan arweinwyr y pedair plaid, gan gynnwys darnau o'r Beibl a dyfyniadau o "Nadolig Plentyn yng Nghymru" gan Dylan Thomas, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd Caplan y Bae, y Parch. Peter Noble, yn rhoi gweddi fer cyn diwedd y cyngerdd a bydd y Parch. Gill Dallow, sy'n rhoi'r gorau i'w swydd fel Caplan y Bae, yn bresennol hefyd.