Cyhoeddwyd 09/07/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Pwyllgor Archwilio i drafod LG
Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol yn trafod LG mewn cyfarfod yr wythnos hon.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yn y Trydydd Cynulliad am 1.30pm, ddydd Iau 12 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.
Bydd y Pwyllgor yn ethol Cadeirydd a bydd yn clywed cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman, ar gylch gwaith a dyletswyddau’r Pwyllgor Archwilio, sy’n gyfrifol am graffu’n ddiduedd ar wariant Llywodraeth y Cynulliad.
Bydd yr aelodau hefyd yn clywed tystiolaeth fel rhan o’u hymchwiliad i ddiogelu arian cyhoeddus ym mhrosiectau LG yng Nghasnewydd.
Mwy o fanylion am gyfarfod y pwyllgor