Cyhoeddwyd 05/11/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Pwyllgor i graffu ar waith Gweinidog
Bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar waith y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar faterion allweddol o fewn ei bortffolio yn ei gyfarfod nesaf ddydd Mercher 7 Tachwedd. Dyma’r tro cyntaf y mae’r Gweinidog wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor ers yr etholiad.
Mae’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor i’w trafod yn cynnwys:
- Pwerau newydd arfaethedig i’r Cynulliad wneud deddfwriaeth mewn cysylltiad â materion yn ymwneud ag awdurdod lleol yn cynnwys strwythurau a therfynau;
- Gwybodaeth i’r cyhoedd ar safon Gwasanaethau Llywodraeth Leol
- Gwasanaethau Tân ac Achub;
- Arian Llywodraeth Leol yn cynnwys help i bensiynwyr gyda’u Treth Gyngor;
- Arian ar gyfer trefniadau Cyflog Cyfartal Llywodraeth Leol;
- Camddefnyddio Sylweddau.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn penderfynu ar y ffordd orau o barhau â deiseb gan Sefydliad Aren Cymru sy’n galw am gynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru. Trosglwyddwyd y ddeiseb i’r Pwyllgor hwn gan y Pwyllgor Deisebau.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd rhwng 9.30am a 11.30am.
Manylion llawn ac agenda