Pwyllgor i holi’r Gweinidog ar dlodi tanwydd
Bydd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad yn casglu tystiolaeth gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Jane Davidson, ar dlodi tanwydd yr wythnos hon.
Mae’r Pwyllgor wedi cynnal sesiwn dystiolaeth gydag energywatch a phump o’r cwmnïau cyflenwi ynni mwyaf, ac y mae Aelodau yn bryderus bod 22 y cant o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd.
Mae’r Pwyllgor wedi croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy gynlluniau megis y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartrefac y mae’n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog ar ddyfodol y rhaglen hon.
Bydd y Gweinidog hefyd yn rhoi tystiolaeth ar y Mesur Morol drafft a sut y bydd yn gweithredu yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod am 9am yn Ystafell Bwyllgor 3, Senedd, ar ddydd Mercher Mehefin 4.