Pwyllgor y Cynulliad i holi Gweinidog Iechyd ynghylch caniatâd tybiedig i roi organau.

Cyhoeddwyd 17/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Pwyllgor y Cynulliad i holi Gweinidog Iechyd ynghylch caniatâd tybiedig i roi organau.

Fel rhan o’i ymchwiliad i ganiatâd tybiedig i roi organau, bydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn gwrando ar dystiolaeth gan Edwina Hart AC, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystod ei gyfarfod nesaf, ddydd Iau 19 Mehefin.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn gwrando ar dystiolaeth gan Mr Abdul Hammad, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Neffroleg a Thrawsblannu, Ysbyty Brenhinol Lerpwl drwy gyswllt fideo, a chan yr Athro John Saunders a fydd yn rhoi tystiolaeth ar system amgen o ddewis mandadedig.  

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Disgwyliaf y bydd yr holl dystion yn cyfrannu’n fawr o’u gwybodaeth a’u profiad i’r drafodaeth ar ganiatâd tybiedig i roi organau yn ystod y cyfarfod. Fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen yn benodol at glywed barn y Gweinidog ar y mater ac i ddysgu am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol rhoi organau yng Nghymru. Gobeithiaf y bydd ymchwiliad y pwyllgor yn sail i unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llywodraeth mewn perthynas â cheisio pwerau i newid y system bresennol yng Nghymru.”

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, ddydd Iau 19 Mehefin am 1.00pm.  

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’i ymchwiliad

Nodiadau i olygyddion:

1. Ar hyn o bryd, cymerir organau gan berson sydd wedi marw dim ond os yw wedi’i gofrestru fel rhoddwr ar Restr Rhoddwyr Organau y GIG neu os yw'n cario cerdyn ac os yw ei anwyliaid yn cydsynio â hyn.

2. Mewn rhai gwledydd, mae system wahanol yn bodoli. Mae'n bosibl cymryd organau yn awtomatig oni bai bod yr ymadawedig wedi mynegi gwrthwynebiad i hyn ymlaen llaw. Yr enw a roddir ar y system hon yw caniatâd tybiedig.