Mae angen i'r rheolau sy'n rheoli'r cyfryngau newid er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn gallu gwylio cynnwys sy'n adlewyrchu ac yn llywio eu bywydau mewn oes o drawsnewid digidol.
Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn cymeradwyo galwad a wnaed gan y rheoleiddiwr cyfryngau, Ofcom, am newidiadau i alluogi’r ddarpariaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus i foderneiddio mewn byd sy'n gynyddol ar-lein.
Mae adroddiad y Pwyllgor, “Ymateb i Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr", yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynigion polisi a deddfwriaethol yn seiliedig ar argymhellion Ofcom yn ei adroddiad "Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr”. Mae hyn yn cynnwys sicrhau y caiff y gweinyddiaethau datganoledig eu cynnwys yn llawn yn y gwaith hwn.
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod setliad ariannu teg ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn hanfodol er mwyn gwarantu y gall digwyddiadau diwylliannol a rennir gan y genedl a'r gwasanaeth newyddion dibynadwy barhau i wasanaethu cynulleidfaoedd Cymru.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol:
"Mewn byd digidol sy'n newid yn barhaus, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu sawl her. Mae’r Pwyllgor o’r farn y gall Llywodraeth y DU a rheoleiddiwr cryf, annibynnol, chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod deddfwriaeth yn cefnogi darlledwyr i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y trawsnewid mewn arferion gwylio.”
“Rhaid i ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi ystyried y rôl unigryw sydd gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wrth gomisiynu cynnwys ac adlewyrchu diwylliant Cymru a'r Gymraeg.
“Dylai rhanbarthau a chenhedloedd y DU fod yn rhan ganolog o'r trafodaethau ar ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil yr oes ddigidol, a dylid rhoi sylw arbennig i rôl S4C o ran hyrwyddo'r Gymraeg.”
Gallwch darllen adroddiad y Pwyllgor, “Ymateb i Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr", yma.