Mae’r Cynulliad yn dod i Abertawe!
Unwaith eto, bydd y Cynulliad yn mynd ar daith ac yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau wythnos o hyd mewn lleoliadau ar draws y ddinas.
Os ydych yn mynd i fod yn Abertawe rhwng 12 a 16 Hydref, dewch draw i’n gweld. Rydym eisiau siarad â chymaint o bobl ag y gallwn am sut y gallant gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad a newid eu cymunedau.
Dewch draw os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu syniadau, neu eich bod am wybod sut mae'r Cynulliad yn gweithio ar gyfer Cymru gyfan, ac ar eich cyfer chi.
Mae sôn am ein digwyddiadau ar dudalen Facebook Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu dilynwch #SeneddAbertawe ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Yr amserlen ar gyfer yr wythnos fydd:
Dydd Llun 12 Hydref
-
13.30 - 16.30 -
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau -
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Digwyddiad Facebook - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dydd Mawrth 13 Hydref
-
09.30 - 16.30 -
Sgwâr y Castell, Canol Dinas Abertawe -
Bws y Cynulliad
Digwyddiad Facebook - Bws y Cynulliad (Sqwâr y Castell)
Dydd Mercher 14 Hydref
-
09.30 - 16.00 - Llyfrgell Abertawe -
Stondin allgymorth galw heibio
Digwyddiad Facebook - Stondin allgymorth galw heibio
Dydd Iau 15 Hydref
-
09.30 - 13.30 - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau -
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Digwyddiad Facebook - Y Pwyllgor Menter a Busnes -
11.30 - 16.30 - Prifysgol Abertawe -
Bws y Cynulliad
Digwyddiad Facebook - Bws y Cynulliad (Prifysgol Abertawe) -
12.30 - 14.00 - Neuadd Brangwyn -
Ffair Rhwydweithio
POWiPL
Digwyddiad Facebook- Ffair Rhwydweithio POWiPL -
12.00 - 14.00 - Coleg y Gyfraith, Abertawe -
Seminar Amser Cinio gydag Is-adran y Cyfreithiwr Iau
Digwyddiad Facebook - Seminar Amser Cinio (Coleg y Gyfraith) -
16.30 - 18.00 - Prifysgol Abertawe -
Digwyddiad Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Digwyddiad Facebook - Digwyddiad Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Dydd Gwener 16 Hydref
-
10.30 - 12.30 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau -
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein.
Digwyddiad Facebook - #GofynPrifWein
Lawrlwytho Rhaglen Senedd@Abertawe (PDF, 240KB)
I ddysgu mwy neu i ddod i unrhyw un o’n digwyddiadau, ffoniwch linell gyswllt y Cynulliad ar 0300 200 6565 neu e-bostiwch cysylltu@cynulliad.cymru
Senedd@Abertawe
Yn dod â'r Cynulliad atoch chi.
12 - 16 Hydref 2015