Bum mlynedd ar hugain ers ethol yr Aelodau cyntaf i gynrychioli pobl Cymru, mae Senedd Cymru yn edrych i’r dyfodol wrth i’w Mawrhydi Y Brenin a’r Frenhines ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd.
Mae’r ymweliad yn cyd-daro â phasio cyfraith newydd i Gymru a fydd yn cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau ac yn cyflwyno system bleidleisio newydd yn etholiad 2026.
Bydd yr Aelodau ychwanegol yn gallu cynrychioli eu cymunedau’n well, herio gwaith Llywodraeth Cymru a chryfhau gallu’r Senedd i wneud penderfyniadau dros Gymru, yng Nghymru.
Ar ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024, fe wnaeth Eu Mawrhydi Y Brenin a’r Frenhines ymweld â’r Senedd, lle bydd Y Brenin yn traddodi araith i nodi’r pum mlynedd ar hugain ac yn cwrdd â phobl sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith y Senedd.
Yn ei araith, talodd Y Brenin deyrnged i lwyddiannau'r Senedd a dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol:
“The Queen and I are so delighted to join you today as we mark this significant milestone in our history – the twenty-fifth anniversary of Welsh devolution.
“It is a milestone on a journey which it has been my privilege, all my life, to share with you. Through it all, my respect and affection for the people of this ancient land have deepened with every passing year. Braint yw cael rhannu eich cariad at y wlad arbennig hon.
“In 1999 when the then National Assembly for Wales was established, we could not know what lay ahead. But we trusted that the common desire for the welfare of the people of Wales would be the surest guide for those who would create, shape and develop this new national institution.
“Welsh minds have indeed been directed to Welsh matters, and the distinct voice of Wales is heard with clarity and purpose.
“Edrychwn yn ôl ar y daith hyd yn hyn, edrychwn ymlaen at y daith sydd i ddod.
“Over the last 25 years the Senedd has become more than a symbol, it has become essential to the life of Wales. As we look back over the quarter century, I offer you my heartfelt congratulations - llongyfarchiadau mawr – on all you have achieved.
“A great milestone has been reached and there are many more ahead, but you do not travel alone. The strength, resilience and aspiration of the Welsh people will help to sustain you. With those interest in mind, I prey that in the years to come, you will achieve even more. Overcome even more challenges, and find even more causes for celebration. Diolch o galon.”
"Nid Senedd y gwleidyddion mo hon – i bobl Cymru y mae’n perthyn"
Roedd anerchiadau yn y seremoni yn y Siambr gan Lywydd y Senedd, Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Vaughan Gething AS, ac Arweinwyr y Pleidiau, sef Andrew RT Davies AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a Rhun ap Iorwerth AS ar ran Plaid Cymru. Mae’r seremoni ar gael ar Senedd.tv
Meddai Llywydd y Senedd, y Gwir Anrh. Elin Jones AS: “25 mlynedd yn ôl, cychwynnodd Cymru ar siwrnai drawsnewidiol, ethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ers hynny, daeth yn Senedd aeddfed, sy’n gallu gwneud cyfreithiau mewn meysydd sy’n hollbwysig i fywydau pobl.
“Dyma Senedd fodern a hyblyg, y mae cynaliadwyedd yn gwbl ganolog iddi. Senedd ddwyieithog, sy’n falch o weithio yn ein dwy iaith swyddogol. Yn 2003, hi oedd y senedd gytbwys o ran rhywedd gyntaf yn y byd.
“Mae ein siwrnai’n parhau. Yn 2026, bydd pleidleiswyr yn ethol 36 yn rhagor o Aelodau i’r Senedd, a fydd yn cynnig llais cryfach i bobl Cymru, cynrychiolaeth well a mwy o graffu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan.
“Mae gwleidyddion wedi mynd a dod, a phob un wedi gwneud ei gyfraniad ei hun. Ond nid Senedd y gwleidyddion mo hon – i bobl Cymru y mae’n perthyn, y bobl a saernïodd hi ac sy’n llunio ei dyfodol.”
Pobl sy’n gwneud gwahaniaeth
Yn ystod eu hymweliad â’r Senedd, bu’r Brenin a’r Frenhines yn cwrdd â phobl o’r gymuned sydd wedi cyfrannu at waith y Senedd, gan gynnwys Neil Evans, y deisebydd a ddechreuodd ymgyrch lwyddiannus ar gyfer codi tâl am fagiau siopa plastig yn 2007.
Ymhlith y gwesteion hefyd roedd Sarra Ibrahim, sydd wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i bwyllgorau’r Senedd ar amryw faterion yn ymwneud â gofal plant, trais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol. Yr ymgyrchydd canser Claire O'Shea, a rannodd ei stori i fynnu gwell triniaethau a chanlyniadau canser gynaecolegol yng Nghymru. Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a ymgyrchodd yn llwyddiannus i wneud addysgu Hanes Pobl Dduon yn orfodol yn ysgolion Cymru.
Cafodd tusw o flodau ei gyflwyno i’r Frenhines gan Celyn Matthews-Williams, sy’n 10 oed ac yn dod o Lanelli, un o Bencampwyr Cymunedol Covid y Senedd. Yn ystod y pandemig, cododd arian ar gyfer banciau bwyd ac Ambiwlans Awyr Cymru, a daeth â llawenydd i’w chymuned drwy dyfu blodau haul a sefydlu cyfnewidfa lyfrau ar wal ei gardd.
Bu Eu Mawrhydi hefyd yn cwrdd ag aelodau o staff y Senedd sydd wedi gweithio yma ers 25 mlynedd, neu sydd eu hunain yn 25 oed, a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd perfformiadau gan gôr Amdani Cymru, Ensemble Ysgol Treganna a Band Dur Pantasia.
Gwyliwch y seremoni ar Senedd.tv