Y Cynulliad yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
Bydd adeiledd newydd yn cael ei godi yn y Senedd ddydd Iau 3 Rhagfyr i gynrychioli’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn ein cymdeithas.
Bydd y wal 8 troedfedd yn rhan o weithgareddau Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Drwy gydol y digwyddiad bydd cynrychiolwyr yn postio enghreifftiau o’r rhwystrau y mae’n rhaid i bobl anabl eu goresgyn yn eu bywydau bob dydd. Y themâu eleni yw troseddau casineb yn erbyn pobl anabl, cymryd rhan mewn democratiaeth, a chael hyd i wybodaeth.
Dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. “Rydym am i bobl gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, llwyddo i gael hyd wybodaeth am ein busnes swyddogol, ac i’n gweld wrth ein gwaith, naill ai yn y Senedd, gartref ar deledu digidol, neu ar-lein ar Senedd tv.”
“I sicrhau’n bod yn senedd hygyrch, rydym ni, fel cyfundrefn, wedi gwneud trefniadau ac addasiadau i sicrhau bod ein hadeiladau a’n gwasanaethau’n hygyrch i ymwelwyr. Mae’n amhosibl cael democratiaeth hygyrch os nad yw cartref y ddemocratiaeth honno’n agored iddynt.”
Yn ystod y digwyddiad hefyd bydd diwrnod Disability Pride y flwyddyn nesaf yn cael ei lansio. Bydd yn cael ei gynnal fis Mehefin ym Mhlas Roald Dahl ym mae Caerdydd. Daeth tua 10,000 o bobl i gymryd rhan yn y digwyddiad diwethaf a gynhaliwyd yn 2008.
Bydd y digwyddiad yn dechrau yn y neuadd yn Nhy Hywel am 13:30. Bydd y gweithdai’n dechrau am 14:30 a chaiff y wal ei hadeiladu yn y Senedd am 17:30.
Daw’r digwyddiad i ben am 19:45 ar ôl araith gan y Llywydd, yr Arglwydd Elis-Thomas.
Caiff diwrnod Disability Pride ei lansio’n gynharach ar safle Gwyl y Gaeaf yng nghanol Caerdydd am 10:30. Cewch ragor o fanylion os ewch i: http://www.disabilitypridecymru.org.uk/