Y Llywydd yn Agor Teyrngedau’r Senedd i'r Frenhines

Cyhoeddwyd 11/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r Llywydd wedi talu teyrnged i Ei Mawrhydi y Frenhines wrth iddi agor sesiwn eithriadol o'r Senedd. 

 

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS:  

"Rydym yn ymgynnull yma heddiw i dalu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II - pennaeth y wladwriaeth ers dros 70 mlynedd.

“Ymgymerodd Elizabeth II â’i swydd 47 mlynedd cyn i'r Senedd hon gael ei chreu. Heddiw, ni yw Senedd gyntaf Cymru i dalu teyrnged yn dilyn marwolaeth pennaeth y wladwriaeth.  

"Fel ym mhob Senedd, mae ein barn yn cynrychioli barn amrywiol y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae ein barn yn amrywio ar lawer iawn o agweddau ar fywyd Cymru. Bydd ein barn yn wahanol o ran sefydliad y frenhiniaeth ei hun, ond ni fydd ein barn yn wahanol iawn ar y ffordd y bu Elizabeth yn gweithredu ei rôl yn ystod ei hoes o wasanaeth cyhoeddus, sut roedd ei doethineb a'i hymroddiad i'r swydd yn cael eu gwerthfawrogi a sut rydym yn galaru yn nhristwch ei cholled ac yn cadw ei theulu yn ein meddyliau.  

"Roedd Elizabeth II yn chwilio am yr hyn oedd yn uno pobl yn hytrach na’r hyn oedd yn creu rhaniad. Gallwn ninnau hefyd geisio’r undod hwnnw heddiw yn ein cydymdeimlad." 

Caiff y Cynnig o Gydymdeimlad y bydd yr Aelodau o’r Senedd yn cytuno arno heddiw (dydd Sul) ei ddarllen i Ei Fawrhydi Y Brenin pan fydd ef a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog yn ymweld â'r Senedd ddydd Gwener. Bydd y Cynrychiolwyr Brenhinol hefyd yn cwrdd ag Aelodau o'r Senedd ac Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.  

Dywed y cynnig:

"Bod y Senedd hon yn mynegi ei thristwch dwys yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines ac yn estyn ei chydymdeimlad diffuant i Ei Fawrhydi Y Brenin ac Aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol.  Rydym yn cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth a dyletswydd cyhoeddus, gan gynnwys y gefnogaeth a roddodd i nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru, a’i chysylltiad ar hyd ei hoes â Chymru a’i phobl."

Gwylio

Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines