Cyhoeddwyd 11/05/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Diwylliant i glywed tystiolaeth gan glybiau pêl-droed Cymru
Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon y Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan ddau glwb pêl-droed o Gymru yn ei gyfarfod nesaf.
Bydd Clybiau Pêl-droed Dinas Caerdydd, a Sir Casnewydd yn rhoi tystiolaeth fel rhan o adolygiad y Pwyllgor o bêl-droed yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed gan y BBC ac S4C fel rhan o’r adolygiad.
Yn yr un cyfarfod, bydd Aelodau yn clywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar yr uno gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a datganiad ysgrifenedig gan Alun Pugh, y Gweinidog, ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddawns yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried ymateb drafft i’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y Papur Gwyn “Gwasanaeth Cyhoeddus i bawb: y BBC yn yr oes ddigidol”.
Cynhelir y cyfarfod am 9am ddydd Iau 11 Mai yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd
Manylion llawn ac agenda