Y Senedd i ymdawelu er cof am arwyr o Gymru a anafwyd neu a fu farw
7 Tachwedd 2013
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi Dydd y Cofio yn y Senedd gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Ddydd Llun, 11 Tachwedd, bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, David Melding AC, y Dirprwy Lywydd a Mr Peter Wilson, Cadeirydd Rhanbarth y Lleng Brydeinig Frenhinol, De-ddwyrain Cymru, yn arwain y ddwy funud draddodiadol o ddistawrwydd.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10.55am gyda darllen yr Anogiad yn y Neuadd cyn i’r ddwy funud o ddistawrwydd ddechrau am 11am.
Bydd y Llywydd hefyd yn gosod torch yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, yng Ngerddi Alexandra, Caerdydd, yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru, ddydd Sul, 10 Tachwedd.
"Ni ddylem fyth anghofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf yn gwasanaethu eu gwlad," meddai Mrs Butler.
"Dylem gofio am y rhai sy’n parhau i beryglu eu bywydau heddiw mewn mannau lle ceir brwydro, fel Affganistan.
"Mae Dydd y Cofio yn fodd i’n hatgoffa un ac oll o’r aberth hwn a dyna paham bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol."
Gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan yn y ddwy funud o ddistawrwydd yn y Senedd.