Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Ymgynghoriad - Bill Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Cyhoeddwyd 05/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae Bil cyntaf y Chweched Senedd yn cychwyn ar ei daith drwy'r broses graffu seneddol, gan ddechrau gydag ymgynghoriad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer darparwyr addysg a rhanddeiliaid.
Cyflwynwyd Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Llywodraeth Cymru yn ffurfiol i’r Senedd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ddydd Llun 1 Tachwedd. Mae'r Bil yn cyflwyno cynigion i newid y ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei rheoli a'i rheoleiddio.
Heddiw, dydd Gwener 5 Tachwedd, mae'r Pwyllgor wedi dechrau ar ymgynghoriad sy’n galw ar ddarparwyr addysg a rhanddeiliaid i ddweud eu barn am y cynigion. Mae'r ymgynghoriad yn rhan o waith y Pwyllgor o gasglu tystiolaeth am egwyddorion cyffredinol y Bil. Cyhoeddir canfyddiadau’r Pwyllgor mewn adroddiad a fydd yn llywio’r bleidlais ar egwyddorion cyffredinol y Bil gan y Senedd gyfan ym mis Mawrth 2022.
Gwahoddir unigolion a sefydliadau i gyflwyno eu tystiolaeth drwy dudalen y Pwyllgor sydd ar gael ar wefan y Senedd. Mae'r Pwyllgor yn arbennig o awyddus i glywed gan y rhai sydd â phrofiad ac arbenigedd yn y sector addysg ôl-16.
Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:
“Yn y Bil hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newidiadau sylweddol i’r ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei rheoli a’i rheoleiddio. Byddai'r cynigion yn cydgrynhoi'r sector addysg ôl-16 cyfan o dan un Comisiwn am y tro cyntaf, a byddent yn cynnwys diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn ogystal â throsglwyddo rhai pwerau oddi wrth Weinidogion Cymru i'r Comisiwn.
“Mae gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddiddordeb mewn gwybod beth yw goblygiadau hyn yn ymarferol a sut y byddai, mewn gwirionedd, yn gwella'r system ar gyfer darparwyr addysg, ac a fydd yn gwella'r profiad i ddysgwyr, y dylai eu buddiannau fod wrth wraidd unrhyw newidiadau arfaethedig.
“Rydyn ni'n awyddus i weithwyr addysg proffesiynol a rhanddeiliaid, o'r chweched dosbarth, colegau a phrifysgolion, i ddarparwyr hyfforddiant, hyfforddiant yn y gymuned a phrentisiaethau, i ddweud wrth y Pwyllgor beth yw eu barn am y cynigion wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyntaf y broses graffu.”
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil ddydd Llun 1 Tachwedd, a rhoddodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad gerbron y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher 3 Tachwedd.
Yn y cynigion a gyflwynir gan y Bil, am y tro cyntaf byddai'r sector addysg ôl-16 cyfan yn cael ei ddwyn o dan un comisiwn newydd, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Byddai’r Comisiwn hwn yn cynnwys colegau, chweched dosbarth ysgolion, prifysgolion, dysgu gydol oes a phrentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol, yn ogystal ag ymchwil ac arloesi. Byddai’r Comisiwn newydd yn monitro, yn cofrestru ac yn rheoleiddio darparwyr, ac yn nodi'r safonau a ddisgwylir yn y sector, gan gynnwys darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, a byddai yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) presennol.
Mae gwybodaeth am y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae gwasanaeth Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi crynodeb o'r Bil ar gael yma